Main Content
Cymuned
Creu Partneriaethau
I lawer o bobl mae teledu yn ffordd bwysig o dderbyn gwybodaeth am y byd y tu allan a gall y broses o newid o analog i ddigidol achosi pryder
Mae ein tîm o Gyd-gysylltwyr Prosiect Rhanbarthol yn gweithio ar lefel lleol gyda'r Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol a'r sector wirfoddol i adeiladu perthynas bositif gyda'r gymuned a sicrhau bod y Cynllun Cymorth yn cyrraedd y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.
Mae ein Rhwydwaith Partneriaeth nawr wedi'i sefydlu ac yn weithredol ar draws rhanbarth Border ITV ac rydym yn cynyddu nifer y Cyd-gysylltwyr Prosiect Rhanbarthol mewn ardaloedd eraill i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddatblygu rhwydweithiau newydd o bartneriaid sy'n uchel eu parch o fewn eu cymunedau
Gweithio gyda ni
Bydd ein tîm o Gyd-gysylltwyr Prosiect Rhanbarthol yn hapus i weithio gydag amrywiol fudiadau lleol sefydledig i godi ymwybyddiaeth o'r Cynllun Cymorth i Newid.
Mae llawer o'r bobl a allai elwa o'r Cynllun Cymorth i Newid ymhlith y mwyaf bregus mewn cymdeithas. Gellwch ein helpu i gyrraedd y rhai sydd mewn angen trwy sicrhau bod y rhai y dewch i gysylltiad â nhw yn derbyn gwybodaeth am y Cynllun Cymorth ac yn gwybod ble i fynd am help. Os ydych chi'n gweithio yn y gymuned leol ac eisiau gwybod mwy am sut y gellwch ein helpu i gyrraedd y rhai sydd angen help, byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â'ch Cyd-gysylltydd Prosiect Rhanbarthol.
Cysylltu â ni
| ENW | SWYDDOGAETH | ARDAL / LLEOLIAD | MANYLION CYSWLLT |
| Nicola Mather | Rheolwraig Rhwydwaith | Rhanbarth Border | nicola.mather@eaga.com |
| Sumera Bashir | Cyd-gysylltydd Prosiect Rhanbarthol | Rhanbarth Border | sumera.bashir@eaga.com |
| Teresa Thorne | Cyd-gysylltydd Prosiect Rhanbarthol | South West | teresa.thorne@eaga.com |

