Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

CC pellach

Ymwelwch
www.digitaluk.co.uk/faqs

Cwestiynau Cyffredin

1. Beth fyddai'n digwydd pe bawn i'n gwneud dim?

Os nad oes gennych deledu digidol a'ch bod yn gwneud dim ni fyddwch yn gallu gwylio teledu ar ôl y newid.

^ Nôl i'r rhestr CC

2. Beth os oes mwy nag un teledu gen i?

Byddwn yn eich helpu i newid un teledu i ddigidol hyd yn oed os ydych eisoes wedi newid teledu arall yn eich cartref. Bydd rhaid i chi drefnu cael unrhyw setiau teledu eraill wedi'u newid.

^ Nôl i'r rhestr CC

3. Beth os oes gen i deledu digidol yn barod?

Os oes gennych deledu digidol yn barod wedi'i newid i ddigidol (er enghraifft teledu digidol yw Teledu Sky) gallwch ddefnyddio'r Cynllun Cymorth i newid teledu arall yn eich cartref.

^ Nôl i'r rhestr CC

4. A fydd fy erial yn dal i weithio?

Os ydych chi'n derbyn llun da nawr dylai eich erial barhau i roi llun da ar ôl y newid. Os ydych chi'n derbyn llun gwael ar hyn o bryd efallai bod angen erial newydd arnoch.

^ Nôl i'r rhestr CC

5. Beth os ydw i'n byw mewn fflat neu gartref gofal a ddim yn gyfrifol am fy erial?

Dylech gysylltu â'r perchennog, rheolwr eiddo, asiant rheoli neu reolwr cartref gofal i weld pa drefniadau y maent wedi eu gwneud ar gyfer y newid i ddigidol. Dylen nhw drefnu uwchraddio unrhyw system erial neu wifrau sy'n cael eu rhannu os oes angen. Bydd rhaid i chi newid eich teledu eich hun.

^ Nôl i'r rhestr CC

6. A fydd rhaid i mi gael gwared ar fy hen deledu yn enwedig os ydy e'n hen?

Na.Mae modd newid bron pob teledu, hyd yn oed y rhai du a gwyn, i ddigidol trwy ddefnyddio blwch digidol ar y set.

^ Nôl i'r rhestr CC

7. A fydd fy fideo neu recordydd DVD yn dal i weithio?

Ar ôl y newid bydd eich fideo neu recordydd DVD yn dal i allu chwarae tapiau fideo neu DVD. Ond, onibai ei fod yn recordydd digidol ni fydd yn gallu recordio rhaglenni teledu ar un sianel tra ydych chi'n gwylio un arall.

^ Nôl i'r rhestr CC

8. Pryd bydd y newid yn digwydd?

Bydd y newid i ddigidol mewn dwy ran.

  • Rhan un: bydd yr hen signal BBC2 yn cael ei ddiffodd a daw fersiwn ddigidol yn ei le (ar 6 Tachwedd i Border).
  • Rhan dau: bydd signalau yr hen BBC1, ITV1, Channel 4 a phump yn cael eu diffodd a daw fersiynau digidol yn eu lle ar (20 Tachwedd 2008 i Border).

Sicrhewch eich bod yn gwybod pryd mae'ch rhanbarth yn mynd yn ddigidol

^ Nôl i'r rhestr CC

Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn ac angen mwy o gymorth ewch i Gwefan ddigidol y DU am fwy o wybodaeth.
STV North - Shetland STV Central STV Central Northern Ireland Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man