Main Content
Esbonio'r Cynllun Cymorth
Rydym wedi cael ein ffurfio i helpu pobl i newid un o'u setiau teledu i ddigidol. Os ydych chi yn gymwys ar gyfer ein help, fe esboniwn ni deledu digidol yn glir ac yn syml i chi. Gallwn osod yr hyn sydd ei angen arnoch yn eich cartref a gwneud yn siwr eich bod yn hapus â'r ffordd mae'n gweithio.
- byddwn yn darparu cyfarpar hawdd ei ddefnyddio ac addas ar eich cyfer
- byddwn yn helpu i osod y cyfarpar yn eich cartref
- byddwn yn gosod dysgl neu erial newydd, lle y gallwn, os oes angen i sicrhau bod y cyfarpar newydd yn gweithio
- byddwn yn dangos mewn ffordd hawdd ei ddeall sut mae'r cyfan yn gweithio.
- a bydd rhywun wrth law y gallwch alw arno am gymorth tra byddwch yn cyfarwyddo â phethau.
Bydd dros saith miliwn o gartrefi yn y DU yn gymwys i dderbyn cymorth. Os ydych chi'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth byddwn yn cysylltu â chi'n bersonol mewn da bryd i ofyn a ydych angen ein cymorth.


