Main Content
A fydd rhaid i mi dalu?
Byddwn yn gofyn i chi gyfrannu £40 tuag at:
- ddarparu cyfarpar hawdd ei ddefnyddio ac addas ar eich cyfer
- help i osod cyfarpar yn eich cartref
- gosod dysgl neu erial newydd, lle y gallwn, os oes angen er mwyn sicrhau bod y cyfarpar yn gweithio
- dangos mewn dull hawdd ei ddeall sut y mae popeth yn gweithio
- a rhywun y gallwch alw arno am gymorth tra ydych yn dod i arfer â'r drefn
Ni fydd rhaid i chi boeni am y paratoi ar gyfer digidol.
Os ydych chi'n gymwys ac hefyd yn derbyn credyd pensiwn, cymhorthdal incwm neu lwfans ceiswyr gwaith sy'n seiliedig ar incwm, bydd y cymorth am ddim.


