Help Scheme for Digital Television

Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Ffeithiau Cyflym

Oni chewch ateb i'ch cwestiwn yn yr wybodaeth a ddarperir isod, cysylltwch â Swyddfa'r Wasg ar: 020 7478 7801

Beth yw'r newid i deledu digidol?

Y newid i deledu digidol yw'r digwyddiad mwyaf ym myd teledu ers teledu lliw. Gan ddechrau yn rhanbarth Border ITV yn hydref 2008 a gorffen yn 2013 bydd gwasanaeth teledu yn y DU yn troi'n gyfangwbl ddigidol , fesul rhanbarth teledu annibynnol. Diffoddir yr hen signal teledu analog a daw signal digidol yn ei le a hwn yn darparu mwy o ddewis o sianeli. Ar ôl y newid hwn ni fydd yn bosibl i unrhyw deledu na fydd wedi cael ei newid i ddigidol dderbyn rhaglenni teledu . Bydd rhaid newid neu uwchraddio i ddigidol bob teledu yn eich cartref os ydych chi eisiau parhau i'w wylio.

^ Nôl i dop y tudalen

Beth yw'r Cynllun Cymorth i Newid i Ddigidol?

Mae'r Cynllun Cymorth wedi'i drefnu gan y BBC mewn cydweithrediad â'r Llywodraeth i sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn elwa o gymorth ymarferol a chyngor yn ystod y broses o newid i ddigidol

^ Nôl i dop y tudalen

Faint o bobl fydd y Cynllun Cymorth yn eu helpu?

Bydd hyd at saith miliwn o bobl ar draws y wlad yn gymwys i dderbyn cymorth i newid un set deledu o dan y Cynllun Cymorth i Newid i Ddigidol yn ystod cyfnod y newid hwn.

^ Nôl i dop y tudalen

Pwy sy'n gymwys?

Mae'r Cynllun Cymorth yn berthnasol i bob cartref lle mae o leiaf un person, ar adeg y newid yn:

  • 75 oed neu fwy
  • Yn hawlio (neu'n gallu hawlio) Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini, neu Lwfans Gweini Cyson neu Atodiad Symudedd
  • Wedi'i gofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall

^ Nôl i dop y tudalen

Oes tâl am hyn?

Bydd rhai pobl sy'n cymryd y Cynllun Cymorth yn talu 40 am y cynnig safonol o gymorth. Mae cynnig safonol y Cynllun Cymorth am ddim i'r cartrefi sy'n gymwys a sydd hefyd yn derbyn budd-daliadau incwm perthnasol. Mae opsiynau eraill hefyd ar gael. Efallai bydd rhaid i'r bobl sy'n dewis yr opsiynau hyn i dalu mwy a nodir hynny yn y Pecyn Opsiynau.

^ Nôl i dop y tudalen

Pryd bydd cymorth ar gael?

Byddwn yn cysylltu â phob person sy'n gymwys yn uniongyrchol sawl mis cyn y newid yn eu hardal gan nodi'r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw o dan y Cynllun Cymorth. Dyma'r Pecyn Opsiynau. Byddwn wedyn yn atgoffa pobl o'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer y newid. Bydd pobl sy'n gymwys yn dal i allu gwneud cais hyd at fis ar ôl i'r trosglwyddydd olaf newid i ddigidol ym mhob rhanbarth teledu.

^ Nôl i dop y tudalen

Pwy fydd yn rhoi'r cymorth?

Mae'r BBC wedi dewis eaga i ddarparu a gweithredu'r Cynllun Cymorth ledled y wlad. Mae eaga yn adnabyddus am gynnig gwasanaeth sydd o gymorth i'r mwyaf bregus mewn cymdeithas ar raddfa genedlaethol

^ Nôl i dop y tudalen

Pa fath o gymorth a gynigir gan y cynllun?

Bydd tîm y Cynllun Cymorth yn eich arwain trwy'r opsiynau sydd ar gael a chynnig y cymorth canlynolt

  • Help i ddewis y cyfarpar cywir i newid un set deledu i ddigidol
  • Cludo'r cyfarpar i'r cartref, ei osod yn ei le a dangos sut y mae'n gweithio
  • Erial neu lestr newydd lle mae hynny'n angenrheidiol i alluogi'r cyfarpar i weithio a lle mae'n bosibl gosod un yn ei le.
  • Cymorth pellach ar ôl y newid a thra bod pobl yn cyfarwyddo â'r cyfarpar

^ Nôl i dop y tudalen

Pa fath o gyfarpar a osodir?

Dewisir cyfarpar a fydd y addas ar gyfer y bobl sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth. Mae hyn yn cynnwys blwch hawdd ei osod a'i ddefnyddio ar gyfer top y set deledu; clyw ddisgrifiad ac isdeitlau, taclau rheoli o bell mwy pwrpasol ac ailscanio syml.

Mae'r manylebau ar gyfer cyfarpar Y Cynllun Cymorth sy'n gymwys i fod yn gynnig safonol wedi'u gosod allan yn y Anghenion Craidd Derbynydd

^ Nôl i dop y tudalen

STV North - Shetland STV North STV Central Ulster Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man