Main Content
Datganiad Newyddion
12th Ionawr 2009
Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol ar Ddod i Gymru
Cyn bo hir bydd pobl hŷn a phobl anabl yn cael cynnig cymorth i newid i deledu digidol pan fydd Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol yn cael ei lansio yng Nghymru.
Sefydlwyd y Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol i helpu pobl hŷn a phobl anabl gymwys i newid un o'u setiau teledu i ddigidol.
Mae pobl yn gymwys os ydyn nhw:
- Yn 75 oed neu'n hŷn
- Os ydyn nhw'n cael (neu y gallen nhw gael) lwfans gweini neu lwfans gweini cyson, atodiad symudedd neu lwfans byw i'r anabl
- Os ydyn nhw wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy
- Neu os ydyn nhw wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall.
Am un taliad o £40, bydd pobl gymwys yng Nghymru'n cael cynnig:
- Cyfarpar Freeview hawdd i'w ddefnyddio, i drosi un set deledu
- Gosod y cyfarpar hwnnw
- Gwirio'r erial a'i huwchraddio lle bo angen, yn achos pobl sy'n berchen ar eu herialau eu hunain
- Arddangosiad o sut mae'n gweithio, a
- Rhywun i'w ffonio am gymorth tra'u bod yn dod i arfer ag ef.
Mae'r gwasanaeth hwn am ddim i bobl sy'n gymwys ac sydd hefyd yn derbyn credyd pensiwn, cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm.
I sicrhau bod y neges yn cael ei chyfleu i bawb, mae'r Cynllun Cymorth wedi lansio ymgyrch hysbysebu ar y teledu y dechreuwyd ei gweld ar sgriniau ledled Cymru y penwythnos hwn.
Dechreuwyd rhedeg y ddwy hysbyseb wresog a doniol ar HTV Wales ac S4C ar 9 Ionawr. Yn un gwelir "Jean", sef dynes sy'n tynnu at ei 80 oed, ac yn y llall ceir dyn dall o'r enw "Pete", ac maen nhw'n dwyn sylw at ba mor rhwydd ydyw i bobl hŷn a phobl anabl gymwys newid i ddigidol gyda'r Cynllun Cymorth.
Bydd y Cynllun Cymorth hefyd yn rhedeg ymgyrchoedd hysbysebu lleol a hysbysebu ar bosteri, yn cynnal digwyddiadau'r Cynllun Cymorth wrth i'r newid i ddigidol nesáu, ac mae'n gweithio ochr yn ochr â Digital UK a chydag elusennau a sefydliadau lleol i roi'r neges ar led.
Meddai Cheryl Lockyer, llefarydd y Cynllun Cymorth yng Nghymru:
"Mae'r newid i ddigidol ar ddod, ac rydyn ni yma i wneud popeth y gallwn ni i wneud yn siŵr nad yw unrhyw un sy'n gymwys yn colli'r cyfle. Byddwn ni'n ysgrifennu at bawb sy'n gymwys yn egluro'n union pa gymorth sydd ar gael a'r hyn sydd angen ei wneud. Y peth pwysicaf yw
peidio â phoeni - byddwn ni'n cysylltu â chi."
Y rheiny y mae grŵp trosglwyddyddion gorllewin Cymru yn eu gwasanaethu fydd y rhai cyntaf yng Nghymru i newid i ddigidol. Mae hyn yn cynnwys y rheiny sy'n byw yn Abertawe y mae trosglwyddydd Mynydd Cilfai yn eu gwasanaethu - bwriedir i hwn newid i ddigidol mewn proses dau gam ar 12 Awst a 9 Medi 2009; y rheiny sy'n byw yn rhan fawr o dde-orllewin Cymru y mae trosglwyddydd Preseli yn eu gwasanaethu - bydd hwn yn newid ar 19 Awst a 16 Medi 2009; a'r rheiny sy'n byw yn y
rhannau hynny o dde a chanolbarth Cymru y mae trosglwyddydd Carmel yn eu gwasanaethu - bydd hwn yn newid ar 26 Awst a 23 Medi 2009.
Bydd mwyafrif y bobl gymwys yn derbyn eu llythyr cyntaf a phecyn gwybodaeth rhwng mis Chwefror 2009 a mis Ebrill 2009. Os na fydd pobl sy'n meddwl eu bod nhw'n gymwys wedi derbyn llythyr erbyn mis Gorffennaf 2009, gallan nhw ein ffonio ni am ddim ar 0800 40 85 903 os ydyn nhw am gael gwasanaeth Saesneg neu 0800 40 85 904 os oes angen cymorth yn Gymraeg arnyn nhw.
Bydd y rheiny y mae grwpiau trosglwyddyddion gogledd a de Cymru'n eu gwasanaethu'n newid i ddigidol yn ddiweddarach yn 2009 a 2010.
Bydd y pecyn gwybodaeth yn gwahodd pobl i wneud cais am y cymorth sydd ar gael. Mae'n manylu ar y cynnig safonol sydd ar gael am £40 neu am ddim, yn ogystal â chynnig ystod o ffyrdd eraill i newid i ddigidol gyda'r Cynllun Cymorth.
Y cynnig safonol yng Nghymru yw bocs digidol Freeview hawdd i'w ddefnyddio i drosi un set deledu. Gellir ei ddosbarthu i gartref y sawl sy'n gymwys, neu gallan nhw ddewis i'w gael wedi'i osod yn llwyr. Bydd pobl gymwys na fyddan nhw'n gallu cael teledu trwy erial ar ôl y newid
i ddigidol yn cael cynnig system loeren freesat yn lle.
Gall pawb sy'n gymwys hefyd ddewis o opsiynau digidol eraill y mae'n rhaid talu mwy am rai ohonyn nhw. Maen nhw'n cynnwys peiriannau recordio digidol, setiau teledu â digidol ynddyn nhw'n barod, ac opsiynau lloeren oddi wrth freesat gan y BBC ac ITV a gan Sky, gan gynnwys opsiynau eglurder manwl.
Manylir yn glir ar yr holl opsiynau a phrisiau mewn pecyn gwybodaeth a fydd yn cael ei anfon yn uniongyrchol i gartref pawb sy'n gymwys.
I'w gwneud yn haws fyth, gall pobl gymwys ddewis i wneud cais trwy ffonio'r Cynllun Cymorth am ddim ar 0800 40 85 903 neu 0800 40 85 904 yn lle, neu gallan nhw enwebu rhywun arall i wneud eu cais ar eu rhan.
Mae'r BBC yn rhedeg y Cynllun Cymorth trwy gytundeb â'r Llywodraeth,
ac fe'i cynlluniwyd i ddiwallu anghenion pobl hŷn a phobl anabl.
Dewiswyd cyfarpar i fod yn hawdd i'w defnyddio, ac mae holl staff y
ganolfan gyswllt, staff dosbarthu a gosodwyr wedi'u hyfforddi i ddeall
a pharchu pobl hŷn a phobl anabl. Mae gosodwyr wedi'u fetio, maen nhw'n
cario cerdyn i gadarnhau pwy ydyn nhw, ac ni fyddan nhw byth yn galw
heb drefnu apwyntiad.
Nodiadau i'r Golygyddion
| Cysylltwyr y Cyfryngau: |
| Diane Green |
| Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu - Cynllun Cymorth Newid i |
| Ddigidol |
| Ffôn:: 0191 245 8847 |
| Ffôn symudol: 07951478832 |
| E-bost: diane.green@eaga.com |
| Sarah Fairfax |
| Gweithredwr Cyfathrebu - Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol |
| Ffôn: 0191 245 8834 |
| Ffôn symudol: 07730424407 |
| E-bost: sarah.fairfax@eaga.com |
Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol
Mae'r BBC yn rhedeg y Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol, trwy
gytundeb â'r Llywodraeth, i helpu pobl hŷn a phobl anabl i newid i
ddigidol.
Yn y cyfnod wrth i'r newid i ddigidol nesáu ym mhob rhanbarth, bydd
pawb sy'n gymwys yn cael cynnig cymorth ymarferol i drosi un o'u setiau
teledu i ddigidol. Mae pobl yn gymwys os ydyn nhw'n 75 oed neu'n hŷn,
neu os ydyn nhw wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall. Hefyd yn
gymwys yw pobl sy'n cael (neu a allai gael) lwfans gweini neu lwfans
gweini cyson, atodiad symudedd neu lwfans byw i'r anabl, a'r rheiny
sydd wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy.
Bydd gofyn i'r mwyafrif o bobl gyfrannu £40 tuag at y cymorth. Mae'r
gwasanaeth am ddim i bobl sy'n gymwys ac sydd hefyd yn cael credyd
pensiwn, cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar
incwm.
Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ffonio 0800 40 85 903/4 neu drwy fynd i helpscheme.co.uk
Newid i deledu digidol yw'r broses o
drosi system deledu ddaearol y DU i ddigidol. Rhwng nawr a 2012, bydd
sianeli analog yn cael eu diffodd fesul rhanbarth a bydd gwasanaethau
teledu a radio digidol am ddim yn eu disodli. Bydd y newid i ddigidol
yn golygu y bydd Freeview yn dod ar gael i'r DU gyfan ac y bydd tonnau
awyr yn cael eu rhyddhau ar gyfer gwasanaethau newydd fel band eang
diwifr tra chyflym a theledu symudol.
Digital UK
Digital UK yw'r sefydliad annibynnol, dielw a sefydlwyd yn 2005 i
roi'r newid i ddigidol ar waith. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus
(BBC, ITV, Channel 4, Five, S4C a Teletext) a'r gweithredwyr amlbleth
digidol yn berchen arno ar y cyd ac yn ei gydariannu.
eaga
Mae eaga, sef darparwr blaenllaw gwasanaethau effeithlonrwydd ynni
preswyl a gwasanaethau trefnu trwy gontractau allanol, wedi'i ddewis
gan y BBC fel darparwr gwasanaeth y Cynllun Cymorth a fydd yn
cyflenwi'r cymorth sydd ar gael dan y cynllun, o ranbarth ITV Border
ymlaen.


