Main Content
Datganiad Newyddion
12th Ionawr 2009
Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol yn dewis ei gynnig safonol i Gymru
Yn dilyn proses ffurfiol, mae'r Cynllun Newid i Ddigidol wedi dewis
Freeview ar gyfer y cynnig safonol o gymorth ymarferol i bobl hŷn a
phobl anabl gymwys yn rhanbarth ITV Cymru.
Y Llywodraeth sydd wedi sefydlu'r Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol,
a'r BBC sy'n ei redeg. Ei ddiben yw gwneud teledu digidol yn hawdd i
bobl hŷn a phobl anabl trwy drosi un o'u setiau teledu i ddigidol yn y
cyfnod wrth i'r newid i ddigidol nesáu yn eu rhanbarth. Bydd pobl yn
cael cynnig y cymorth os ydyn nhw'n 75 oed neu'n hŷn, os ydyn nhw
wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall, os ydyn nhw'n gymwys ar
gyfer rhai budd-daliadau anabledd penodol neu os ydyn nhw wedi byw mewn
cartref gofal am chwe mis neu fwy.
Mae tua hanner miliwn o bobl yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth
Newid i Ddigidol yng Nghymru, lle bydd y newid i ddigidol yn digwydd
fesul cam rhwng mis Awst eleni a mis Mawrth 2010. Bydd llythyrau'n cael
eu hanfon at tua hanner miliwn arall y tu allan i Gymru oherwydd eu bod
o bosib yn derbyn eu signal teledu o drosglwyddydd yng Nghymru y bydd y
newid yn effeithio arno.
Bydd pobl gymwys yn rhanbarth ITV Cymru'n cael cynnig bocs digidol
Freeview wedi'i osod ar un o'u setiau teledu, am gost gymorthdaledig o
£40, neu am ddim os ydyn nhw hefyd yn cael budd-daliadau incwm. Bydd y
cyfarpar yn golygu y bydd mwy nag 20 o sianeli ar gael iddyn nhw, gan
gynnwys pob un o'r sianeli gwasanaeth cyhoeddus. Mae'r cymorth hefyd yn
cynnwys arddangosiad o sut i ddefnyddio'r cyfarpar, gwasanaeth gwirio'r
erial a'i huwchraddio lle bo angen i'r rheiny sy'n berchen ar eu
herialau eu hunain, a Llinell Gymorth i'w ffonio am gyngor tra'u bod yn
dod i arfer ag ef.
Os bydd yna bobl gymwys na fyddan nhw'n gallu cael teledu digidol
trwy erial, fe fyddan nhw'n cael cynnig cyfarpar lloeren oddi wrth
freesat gan y BBC ac ITV ar yr un telerau.
Bydd eaga, sef darparwr gwasanaeth y Cynllun Cymorth, yn rheoli
cyflenwi'r ddau opsiwn hyn yng Nghymru. Mae'r cwmni wedi ymrwymo i
gyflenwi'r gwasanaeth arbenigol o safon uchel y mae'r Cynllun Cymorth
yn galw amdano i ddiwallu anghenion amrywiol pobl hŷn a phobl anabl y
mae teledu digidol yn newydd iddyn nhw.
Gall pobl sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol
yng Nghymru hefyd ddewis o opsiynau digidol eraill am gost ychwanegol.
Maen nhw'n cynnwys peiriannau recordio digidol, setiau teledu â digidol
ynddyn nhw'n barod, ac opsiynau lloeren oddi wrth freesat gan y BBC ac
ITV a gan Sky, gan gynnwys opsiynau eglurder manwl.
Manylir yn glir ar holl opsiynau'r Cynllun Cymorth mewn pecyn
gwybodaeth a fydd yn cael ei anfon yn uniongyrchol i gartref pawb sy'n
gymwys yng Nghymru.
Mae'r Cynllun Cymorth yn penderfynu ar y cynnig safonol, neu'r
opsiwn mwyaf cost-effeithiol, ym mhob rhanbarth olynol y newid i
ddigidol, yn sgil proses y manylir arni yng Nghytundeb y Cynllun rhwng
y Llywodraeth a'r BBC. Cynlluniwyd y broses i sicrhau bod y platfform
yn amhleidiol ac i sicrhau gwerth am arian. Yn gyntaf, mae'n rhaid i
ddarparwr y cynnig safonol fodloni'r safonau gwasanaeth llym sy'n
ofynnol i ddiwallu anghenion pobl sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun
Cymorth, ac yn ail ystyrir y gost i'r Cynllun Cymorth, sef cynllun y
mae ffi drwydded y BBC yn ei ariannu. Mae'r opsiynau presennol wedi'u
dewis ar gyfer ITV Cymru yn unig, a bydd y broses yn cael ei hailadrodd
ar gyfer y newid i ddigidol ym mhob rhanbarth ITV.
| Cysylltydd y wasg - |
| Juliet McShannon |
| Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol |
| 020 8008 2680 |
ENDS
Nodiadau i olygyddion:
Cynnig safonol
Manylir ar y broses a ddefnyddir i benderfynu ar y cynnig safonol,
neu'r "opsiwn mwyaf cost-effeithiol", yng Nghytundeb y Cynllun rhwng yr
Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a'r BBC
(www.bbc.co.uk/bbctrust/framework/digital_switchover.html).
Mae'n rhaid i gyfarpar y cynnig safonol fodloni gofynion y Cynllun
Cymorth o ran defnyddioldeb, ac mae'r darparwr gwasanaeth yn ymrwymo i
God Safonau Gwasanaeth y Cynllun Cymorth.
Newid i deledu digidol yw'r broses o
drosi system deledu ddaearol y DU i ddigidol. Rhwng nawr a 2012, bydd
sianeli analog yn cael eu diffodd fesul rhanbarth a bydd gwasanaethau
teledu a radio digidol am ddim yn eu disodli. Bydd y newid i ddigidol
yn golygu y bydd Freeview yn dod ar gael i'r DU gyfan ac y bydd tonnau
awyr yn cael eu rhyddhau ar gyfer gwasanaethau newydd fel band eang
diwifr tra chyflym a theledu symudol.
Mae'r amserlen ar gyfer y newid i ddigidol fel a ganlyn:
| Rhanbarth | Newid i Ddigidol |
| Border | 2008-2009 |
| West Country, Granada | 2009 |
| Cymru | 2009 - 2010 |
| STV North | 2010 |
| West - STV Central | 2010 - 2011 |
| Central, Yorkshire, Anglia | 2011 |
| Meridian | 2011 - 2012 |
| London, Tyne Tees, Ulster | 2012 |
| Grŵp trosglwyddyddion | Ardal a wasanaethir | Newid i ddigidol cam 1 |
Newid i ddigidol cam 2 |
| Mynydd Cilfai | Ardal Abertawe | 12 Awst 2009 | 9 Medi 2009 |
| Preseli | de-orllewin Cymru | 19 Awst 2009 | 16 Medi 2009 |
| Carmel | rhannau o dde a chanolbarth Cymru | 26 Awst 2009 | 23 Medi 2009 |
| Llanddona | gogledd-orllewin Cymru | 21 Hydref 2009 | 18 Tachwedd 2009 |
| Moel y Parc | gogledd-ddwyrain Cymru | 28 Hydref 2009 | 25 Tachwedd 2009 |
| Cefn Digoll | rhannau o ddwyrain a chanolbarth Cymru | 4 Tachwedd 2009 | 3 Rhagfyr 2009 |
| Blaenplwyf | rhannau o orllewin a chanolbarth Cymru | 10 Chwefror 2010 | 10 Mawrth 2010 |
| Gwenfô | Caerdydd, Casnewydd a de-ddwyrain Cymru | 3 Mawrth 2010 | 31 Mawrth 2010 |
Digital UK yw'r sefydliad annibynnol, dielw a sefydlwyd yn 2005 i
roi'r newid i ddigidol ar waith. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus
(BBC, ITV, Channel 4, Five, S4C a Teletext) a'r gweithredwyr amlbleth
digidol yn berchen arno ar y cyd ac yn ei gydariannu.
eaga
Mae eaga, sef darparwr gwasanaethau effeithlonrwydd ynni preswyl a
gwasanaethau trefnu trwy gontractau allanol, wedi'i ddewis gan y BBC i
fod yn ddarparwr gwasanaeth y Cynllun Cymorth a fydd yn cyflenwi'r
cymorth sydd ar gael dan y cynllun, o ranbarth ITV Border ymlaen.


