Main Content
Datganiad Newyddion
27th Chwefror 2009
Mae help wrth law i newid i deledu digidol
Mae pobl h?n a phobl anabl sy'n byw yn ne a chanolbarth Cymru'n cael eu hannog i gadw golwg am becynnau gwybodaeth yn y post sy'n egluro sut gallan nhw gael help ychwanegol i drosi i deledu digidol mewn pryd ar gyfer y newid i ddigidol yr haf yma.
Bydd gr?p trosglwyddyddion Carmel sy'n gwasanaethu rhan fawr o dde a chanolbarth Cymru yn dechrau newid ar 26 Awst ac, i wneud yn si?r bod pobl h?n a phobl anabl yn cael help mewn da bryd, mae'r Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol bellach yn dechrau ysgrifennu at bobl gymwys yn eu gwahodd i wneud cais.
Mae pobl yn gymwys:
- Os ydyn nhw'n 75 oed neu'n h?n, neu
- Os ydyn nhw wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy
- Os ydyn nhw'n cael (neu y gallen nhw gael) lwfans byw i'r anabl, neu lwfans gweini neu lwfans gweini cyson, neu atodiad symudedd, neu
- Os ydyn nhw wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall
Bydd mwyafrif y bobl gymwys yn derbyn eu llythyr cyntaf a phecyn gwybodaeth rhwng mis Chwefror 2009 a mis Mai 2009. Mae manylion ar sut i wneud cais, eglurhad o'r holl opsiynau sydd ar gael a'u prisiau wedi'u nodi'n glir yn y pecyn gwybodaeth y bydd pobl gymwys yn ei dderbyn yn y post.
Beth sydd ar gynnig?
Y cynnig safonol yw bocs digidol Freeview hawdd i'w ddefnyddio i drosi un set deledu i ddigidol. Gellir ei ddosbarthu i gartref y sawl sy'n gymwys, neu gallan nhw ddewis i'w gael wedi'i osod yn llwyr. Bydd pobl gymwys na fyddan nhw'n gallu cael teledu trwy erial ar ôl y newid i ddigidol yn cael cynnig system loeren freesat yn lle.
Bydd gofyn i'r mwyafrif o bobl dalu £40 tuag at y cynnig cymorth safonol. I bobl gymwys sydd hefyd yn cael credyd pensiwn, cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm, mae'n rhad ac am ddim.
Gall pawb sy'n gymwys hefyd ddewis o opsiynau digidol eraill am gost ychwanegol. Mae'r rhain yn cynnwys peiriannau recordio digidol, setiau teledu â digidol ynddyn nhw'n barod ac opsiynau lloeren oddi wrth freesat gan y BBC ac ITV a gan Sky, gan gynnwys opsiynau eglurder manwl.
Beth ddylwn i ei wneud?
Gallwch chi ddychwelyd ffurflenni'r pecyn gwybodaeth wedi'u llenwi i'r Cynllun Cymorth, gan fod angen i bobl ateb er mwyn derbyn cymorth, ond i'w gwneud yn haws i wneud cais, gall pobl gymwys hefyd ffonio'r Cynllun Cymorth am ddim ar0800 40 85 903 os ydyn nhw am gael gwasanaeth Saesneg, neu 0800 40 85 905os oes angen cymorth arnyn nhw yn Gymraeg.
Dylai pobl sy'n meddwl eu bod nhw'n gymwys, ond sydd heb dderbyn llythyr erbyn mis Gorffennaf 2009, gysylltu ar y naill rif neu'r llall.
Ar ben hyn, gall unrhyw un cymwys y mae angen cymorth arnyn nhw i wneud cais enwebu rhywun arall i lenwi eu ffurflen ar eu rhan.
Meddai llefarydd lleol y Cynllun Cymorth, Gareth Earle: "Y neges rydyn ni am ei chyfleu i bobl gymwys yw nad oes angen poeni, gan fod help ar gael. Byddwn ni'n ysgrifennu at bawb sy'n gymwys yn yr wythnosau nesaf, a'r cyfan y mae angen i unrhyw un ei wneud unwaith y byddan nhw'n derbyn eu pecyn gwybodaeth yw cysylltu naill ai dros y ffôn neu drwy ddychwelyd eu ffurflen wedi'i llenwi."
Y BBC sy'n rhedeg y Cynllun Cymorth, ac fe'i cynlluniwyd i ddiwallu anghenion pobl h?n a phobl anabl. Dewiswyd cyfarpar i fod yn hawdd i'w defnyddio, ac mae holl staff y ganolfan gyswllt, staff dosbarthu a gosodwyr wedi'u hyfforddi i ddeall a pharchu pobl h?n a phobl anabl. Mae'r holl osodwyr yn destun gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol, maen nhw'n cario cerdyn i gadarnhau pwy ydyn nhw, ac ni fyddan nhw byth yn galw heb drefnu apwyntiad.
ENDS
Nodiadau i'r Golygyddion
Cysylltwyr y Cyfryngau:
Diane Green
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu - Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol
Ffôn: 0191 245 8847
Ffôn symudol: 07951478832
E-bost: diane.green@eaga.com
Sarah Fairfax
Gweithredwr Cyfathrebu - Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol
Ffôn: 0191 245 8834
Ffôn symudol: 07730424407
E-bost: sarah.fairfax@eaga.com
Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol
Mae'r BBC yn rhedeg y Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol, trwy gytundeb â'r Llywodraeth, i helpu pobl h?n a phobl anabl i newid i ddigidol.
Yn y cyfnod wrth i'r newid i ddigidol nesáu ym mhob rhanbarth, bydd pawb sy'n gymwys yn cael cynnig cymorth ymarferol i drosi un o'u setiau teledu i ddigidol. Mae pobl yn gymwys os ydyn nhw'n 75 oed neu'n h?n, neu os ydyn nhw wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall. Hefyd yn gymwys yw pobl sy'n cael (neu a allai gael) lwfans gweini neu lwfans gweini cyson, atodiad symudedd neu lwfans byw i'r anabl, a'r rheiny sydd wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy.
Bydd gofyn i'r mwyafrif o bobl gyfrannu £40 tuag at y cymorth. Mae'r gwasanaeth am ddim i bobl sy'n gymwys ac sydd hefyd yn cael credyd pensiwn, cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm.
Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ffonio 0800 40 85 903/4 neu drwy fynd i helpscheme.co.uk
Newid i deledu digidol yw'r broses o drosi system deledu ddaearol y DU i ddigidol. Rhwng nawr a 2012, bydd sianeli analog yn cael eu diffodd fesul rhanbarth a bydd gwasanaethau teledu a radio digidol am ddim yn eu disodli. Bydd y newid i ddigidol yn golygu y bydd Freeview yn dod ar gael i'r DU gyfan ac y bydd tonnau awyr yn cael eu rhyddhau ar gyfer gwasanaethau newydd fel band eang diwifr tra chyflym a theledu symudol.
Digital UK
Digital UK yw'r sefydliad annibynnol, dielw a sefydlwyd yn 2005 i roi'r newid i ddigidol ar waith. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (BBC, ITV, Channel 4, Five, S4C a Teletext) a'r gweithredwyr amlbleth digidol yn berchen arno ar y cyd ac yn ei gydariannu.
eaga
Mae eaga, sef darparwr blaenllaw gwasanaethau effeithlonrwydd ynni preswyl a gwasanaethau trefnu trwy gontractau allanol, wedi'i ddewis gan y BBC fel darparwr gwasanaeth y Cynllun Cymorth a fydd yn cyflenwi'r cymorth sydd ar gael dan y cynllun, o ranbarth ITV Border ymlaen.


