Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Datganiad Newyddion

23rd Mehefin 2009

Helpwch rywun i newid i deledu digidol yng Ngorllewin Cymru trwy rannu’r
neges!

Gyda wythnosau’n unig i fynd cyn y newid i ddigidol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog preswylwyr ledled yr ardal i helpu rhywun arall i newid i ddigidol.

Mae’r Cyngor yn cefnogi ymgyrch ‘Trosglwyddwch’ y Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol i sicrhau bod pob unigolyn hŷn ac anabl cymwys yn yr ardal yn gwybod am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw i sicrhau y bydd eu teledu’n parhau i weithio pan fydd y newid i ddigidol yn dechrau fis Awst 2009.

Bydd grŵp trosglwyddyddion Carmel, sy’n gwasanaethu rhannau o dde a chanolbarth Cymru yn bennaf, yn dechrau newid ar Awst 26 2009. Cyn hynny, bydd grŵp trosglwyddyddion Mynydd Cilfai, sy’n gwasanaethu Abertawe, yn dechrau newid ar Awst 12, a bydd grŵp trosglwyddyddion Preseli, sy’n gwasanaethu de-orllewin Cymru, yn dechrau newid ar Awst 19.

Wrth i’r newid i ddigidol nesáu, mae’r Cynllun Cymorth Newid i Digidol, sy’n cael ei redeg gan y BBC, yn cynnig cymorth ymarferol i bobl hŷn a phobl anabl gymwys newid un o’u setiau teledu i ddigidol.

Ni fydd modd gwylio’r teledu heb gyfarpar digidol ar ôl y newid i ddigidol, felly hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi trosi set deledu eich hun, gallwch chi dal wneud cais i’r Cynllun Cymorth i drosi set arall yn eich cartref.

Mae pecyn gwybodaeth y Cynllun Cymorth wedi’i anfon at bobl gymwys a byddan nhw’n derbyn llythyr atgoffa. Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn annog pawb sydd eisoes wedi newid i ddigidol i estyn at y bobl hŷn a’r bobl anabl hynny y maen nhw’n eu hadnabod y mae angen cymorth arnyn nhw o hyd, o bosibl, ac sydd heb gysylltu â’r Cynllun Cymorth hyd yma i roi gwybod iddyn nhw bod angen cymorth arnyn nhw.

Meddai’r Cyngh Kevin Madge, Hyrwyddwr 50+ Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl hŷn a phobl anabl wedi paratoi ar gyfer y newid i ddigidol, sydd bellach ar fin digwydd.

"Mae hwn yn gynllun gwych sy'n sicrhau bod y broses gyfan mor syml â phosibl, ac mae'r cyngor yn falch o chwarae ei ran yn cydweithredu â'r Cynllun Cymorth."

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a chynrychiolydd lleol y Cynllun Cymorth, sef Gareth Earle, yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau o amgylch y gymuned i helpu i ledaenu’r neges ‘trosglwyddwch’. Maen nhw hefyd yn cydweithio i sefydlu sesiynau hyfforddi ar gyfer Swyddogion Tai Gwarchod a staff canolfan gyswllt y cyngor i’w galluogi nhw i helpu pobl i rannu’r neges.

Meddai Gareth Earle: "Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn rhagorol wrth helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun Cymorth a chefnogi’r ymgyrch ‘Trosglwyddwch’. Rydym wedi sefydlu hyfforddiant ar gyfer staff y Cyngor, rydym wedi rhoi gwybodaeth mewn cylchlythyrau ac rydym yn trefnu digwyddiadau cymunedol i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r Cynllun Cymorth oherwydd, hyd yn oed os nad yw rhywun yn gymwys, mae’n bosibl y byddan nhw’n adnabod rhywun sydd yn gymwys. Rydym ni am iddyn nhw rannu’r neges bod y Cynllun Cymorth yma i helpu."

Mae nifer o gyflwyniadau ‘Trosglwyddwch’ a digwyddiadau taro heibio’n cael eu cynnal ledled y rhanbarth yn ystod yr wythnosau nesaf, lle gall pobl gael gafael ar daflenni a llyfrnodau i helpu i roi'r neges ar led.

Mae’r Cynllun Cymorth yn ei gwneud yn rhwydd i bobl hŷn a phobl anabl gymwys newid i deledu digidol. Mae’n cynnig cymorth i bob aelwyd cymwys i newid un set deledu i ddigidol, gan gynnwys cyfarpar, ei osod a gwirio’r erial a’i huwchraddio lle bo angen. Maen nhw hefyd yn cael arddangosiad o sut mae’r cyfarpar yn gweithio ac ôl-ofal.

Dewiswyd cyfarpar yn benodol i fod yn hawdd i’w ddefnyddio, ac mae holl staff y ganolfan gyswllt, staff dosbarthu a gosodwyr wedi’u hyfforddi i ddeall a pharchu pobl hŷn a phobl anabl. Mae gosodwyr yn cario cerdyn i gadarnhau pwy ydyn nhw, ac ni fyddan nhw byth yn galw heb drefnu apwyntiad.

Mae pobl yn gymwys i gael cymorth oddi wrth y Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol os ydyn nhw:

  • yn 75 oed neu’n hŷn
  • wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy,
  • yn cael, neu y gallen nhw gael, lwfans byw i’r anabl,
  • yn cael lwfans gweini neu lwfans gweini cyson, neu atodiad symudedd,
  • Neu os ydyn nhw wedi’u cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall.

Yn y cyfnod wrth i’r newid i ddigidol nesáu ym mhob rhanbarth, bydd pawb sy’n gymwys yn derbyn llythyr a phecyn gwybodaeth y Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol sy’n egluro'r opsiynau ar gyfer newid i ddigidol. Bydd gofyn i’r mwyafrif o bobl gyfrannu £40 tuag at y cymorth. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bobl sy’n gymwys ac sydd hefyd yn cael credyd pensiwn, cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm.

Mae angen i bobl ymateb i gael y cymorth. Gallwch ddychwelyd ffurflenni’r pecyn gwybodaeth wedi’u llenwi i'r Cynllun Cymorth neu, i’w gwneud yn haws fyth i wneud cais, gall pobl gymwys hefyd wneud cais trwy ffonio’r Cynllun Cymorth yn rhad ac am ddim ar 0800 40 85 903 i siarad â chynghorydd Saesneg, neu 0800 40 85 905 os oes angen cymorth arnyn nhw yn Gymraeg.

Ar ben hyn, gall unrhyw un cymwys y mae angen cymorth arnyn nhw i wneud cais enwebu rhywun arall i lenwi eu ffurflen ar eu rhan. Os hoffech wybod mwy am y Cynllun Cymorth a phwy sy’n gymwys i wneud cais, ewch i helpscheme.co.uk

--diwedd--

Nodiadau i’r Golygyddion

Media Contacts:

Diane Green
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu – Cynllun
Ffôn: 0191 245 8847
Ffôn symudol: 07951478832
E-bost: diane.green@eaga.com

Sarah Fairfax
Gweithredwr Cyfathrebu – Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol
Ffôn: 0191 245 8834
Ffôn symudol: 07730424407
E-bost: sarah.fairfax@eaga.com

Delweddau ar gael ar gais

Y Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol

Mae’r Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol yn cael ei redeg gan y BBC, dan gytundeb â Llywodraeth y DU, i helpu pobl hŷn a phobl anabl i newid i ddigidol.

Yn y cyfnod wrth i’r newid i ddigidol nesáu ym mhob rhanbarth, bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig cymorth ymarferol i drosi un o’u setiau teledu i ddigidol. Mae pobl yn gymwys os ydyn nhw'n 75 oed neu’n hŷn, neu os ydyn nhw wedi’u cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall. Mae pobl hefyd yn gymwys os ydyn nhw’n cael (neu y gallen nhw gael) lwfans gweini neu lwfans gweini cyson, atodiad symudedd neu lwfans byw i’r anabl.

Bydd gofyn i’r mwyafrif o bobl gyfrannu £40 tuag at y cymorth. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bobl sy’n gymwys ac sydd hefyd yn cael credyd pensiwn, cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm.

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ffonio 0800 40 85 903/905 neu drwy fynd i helpscheme.co.uk

Y newid i deledu digidol yw’r broses o drosi system deledu ddaearol y DU i ddigidol. Rhwng nawr a 2012, bydd sianeli analog yn cael eu diffodd fesul rhanbarth a bydd gwasanaethau teledu a radio digidol rhad ac am ddim (Freeview) yn eu disodli. Bydd y newid i ddigidol yn golygu y bydd Freeview yn dod ar gael i’r DU gyfan ac y bydd tonnau awyr yn cael eu rhyddhau ar gyfer gwasanaethau newydd fel band eang diwifr tra chyflym a theledu symudol.

eaga

Mae eaga, sef darparwr blaenllaw gwasanaethau effeithlonrwydd ynni preswyl a gwasanaethau trefnu trwy gontractau allanol, wedi’i ddewis gan y BBC fel darparwr gwasanaeth y Cynllun Cymorth a fydd yn cyflenwi’r cymorth sydd ar gael dan y cynllun, o ranbarth ITV Border ymlaen.

STV North - Shetland STV Central STV Central Northern Ireland Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man