Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Datganiad Newyddion

27th Gorffennaf 2009

Pobl hŷn a phobl anabl Gogledd Cymru’n cael cymorth i newid i deledu digidol

Mae Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol yn helpu pobl hŷn a phobl anabl yng Ngogledd Cymru i newid i deledu digidol.

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r Cynllun Cymorth wedi bod yn ysgrifennu at bobl hŷn a phobl anabl gymwys yng Ngogledd Cymru yn eu gwahodd i wneud cais am gymorth i drosi un set deledu i ddigidol mewn pryd ar gyfer y newid i ddigidol yr hydref hwn.

Un person sydd eisoes wedi manteisio ar y cynnig am gymorth yw Mr John Horton. Meddai John, sy’n 93 oed ac yn byw ger yr Wyddgrug yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru:

"Pan gyrhaeddodd pecyn gwybodaeth y Cynllun Cymorth yn y post, roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi methu fy nghyfle oherwydd fy mod i eisoes wedi prynu teledu digidol newydd. Ond nid oeddwn i’n gwybod bod modd trosi’r set deledu yn fy ystafell wely i ddigidol dan y Cynllun Cymorth."

"Pan wnes i eu ffonio nhw, roedden nhw’n amyneddgar iawn ac fe wnaethon nhw esbonio popeth i mi, a doedd dim bwys ganddyn nhw pan roeddwn i’n gofyn llawer o gwestiynau.

"Ymhen dim o amser, cyrhaeddodd Jamie y gosodwr a rhoi erial newydd i fyny a gosod y bocs Freeview yn yr ystafell wely. Roedd yn ŵr amyneddgar iawn, ac fe esboniodd sut roedd popeth yn gweithio, yn barod i mi wylio’r teledu ar unwaith. Rwy’n hynod ddiolchgar am yr hyn y mae’r Cynllun Cymorth wedi’i wneud i mi.

Mae Jamie Williams, gosodwr gyda’r Cynllun Cymorth, a Lisa Jones, y cydlynydd prosiect rhanbarthol a fu’n ymweld â chartref John, yn ddau yn unig ymhlith tua 40 o osodwyr a phedwar rhwydweithiwr sy’n gweithio yn ardal gogledd Cymru’n helpu i sicrhau bod y newid i deledu digidol mor syml â phosibl i bobl gymwys fel John.

Meddai Lisa: "Rydyn ni’n deall yn iawn nad yw pawb yn ei chael hi’n hawdd iawn dod i arfer â chyfarpar newydd, ond ar ôl i ni gymryd yr amser i esbonio i rywun sut mae teclyn llaw newydd yn gweithio a sut i gyrchu’r sianeli teledu newydd, mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl tybed pam roedden nhw’n poeni yn y lle cyntaf."

Ychwanegodd Jamie: "Mae’r amser rydyn ni’n ei dreulio’n esbonio’r cyfarpar a’r teclynnau i’r cwsmer yn amhrisiadwy iddyn nhw. Ac mae wedi bod yn brofiad dysgu i minnau hefyd, yn enwedig pan rydw i’n gweithio yng nghartrefi pobl ddall neu bobl â nam ar eu golwg. Mae’n rhoi llawer iawn o foddhad."

Os oes gan gwsmeriaid unrhyw gwestiynau ar ôl gosod eu cyfarpar, gallan nhw bob amser ffonio Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol ar 0800 40 85 903 am hyd at flwyddyn yn ddiweddarach i gael mwy o gymorth. Gall unrhyw un sydd eisiau cymorth yn Gymraeg ffonio 0800 40 85 905.

Gogledd Cymru fydd yr ail ardal yn y wlad i newid. Bydd y rheini sy’n byw yng ngogledd-orllewin Cymru ac yn cael eu gwasanaeth o drosglwyddydd Llanddona’n dechrau newid ar 21 Hydref, a bydd y rheini yn y gogledd-ddwyrain sy’n derbyn eu lluniau teledu o drosglwyddydd Moel-y-Parc yn dechrau wythnos yn ddiweddarach ar 28 Hydref. Bydd y rheini mewn rhannau o ddwyrain a chanolbarth Cymru sy’n cael eu gwasanaeth o drosglwyddydd Cefn Digoll yn dechrau newid y mis canlynol ar 4 Tachwedd.

Mae pobl yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth:

  • Os ydyn nhw’n 75 oed neu’n hŷn; neu
  • Os ydyn nhw wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy; neu
  • Os ydyn nhw’n cael (neu y gallen nhw gael) lwfans byw i’r anabl, neu lwfans gweini neu lwfans gweini cyson, neu atodiad symudedd; neu
  • Os ydyn nhw wedi’u cofrestru’n ddall neu'n rhannol ddall.

Bydd gofyn i’r mwyafrif o bobl gymwys dalu £40 tuag at y cynnig cymorth safonol, sef Freeview yng Nghymru. I bobl gymwys sydd hefyd yn cael credyd pensiwn, cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm, mae’n rhad ac am ddim.

Beth sydd ar gynnig?

Mae manylion am sut i wneud cais, eglurhad o’r holl opsiynau sydd ar gael a’u prisiau wedi’u nodi’n glir yn y pecyn gwybodaeth y bydd pobl gymwys yn ei dderbyn yn y post.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae angen i bobl ymateb i gael y cymorth. Gallwch chi ddychwelyd ffurflenni’r pecyn gwybodaeth wedi’u llenwi i’r Cynllun Cymorth, ond i’w gwneud yn haws i wneud cais, gall pobl gymwys ffonio’r Cynllun Cymorth yn rhad ac am ddim ar 0800 40 85 903 neu 0800 40 85 905.
Ar ben hyn, gall unrhyw un cymwys y mae angen cymorth arnyn nhw i wneud cais enwebu rhywun arall i lenwi eu ffurflen ar eu rhan.

Mae’r Cynllun Cymorth yn cael ei redeg gan y BBC dan gytundeb â Llywodraeth y DU, ac fe’i cynlluniwyd yn arbennig i ddiwallu anghenion pobl hŷn a phobl anabl. Dewiswyd cyfarpar yn benodol i fod yn hawdd i’w ddefnyddio, ac mae canolfan gyswllt y Cynllun Cymorth, staff dosbarthu a gosodwyr wedi’u hyfforddi i ddeall a pharchu pobl hŷn a phobl anabl. Mae’r holl osodwyr yn destun gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol, maen nhw’n cario cerdyn i gadarnhau pwy ydyn nhw, ac ni fyddan nhw byth yn galw heb drefnu apwyntiad.

Nodiadau i’r Golygyddion

Cysylltwyr y Cyfryngau:

Diane Green
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu – Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol
Ffôn: 0191 245 8847
Ffôn symudol: 07951478832
E-bost: diane.green@eaga.com

Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol

Mae'r BBC yn rhedeg y Cynllun Cymorth Newid i Ddigidol, trwy
gytundeb â'r Llywodraeth, i helpu pobl h?n a phobl anabl i newid i
ddigidol.

Yn y cyfnod wrth i'r newid i ddigidol nesáu ym mhob rhanbarth, bydd
pawb sy'n gymwys yn cael cynnig cymorth ymarferol i drosi un o'u setiau
teledu i ddigidol. Mae pobl yn gymwys os ydyn nhw'n 75 oed neu'n h?n,
neu os ydyn nhw wedi'u cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall. Hefyd yn
gymwys yw pobl sy'n cael (neu a allai gael) lwfans gweini neu lwfans
gweini cyson, atodiad symudedd neu lwfans byw i'r anabl, a'r rheiny
sydd wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy.

Bydd gofyn i'r mwyafrif o bobl gyfrannu £40 tuag at y cymorth. Mae'r
gwasanaeth am ddim i bobl sy'n gymwys ac sydd hefyd yn cael credyd
pensiwn, cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar
incwm.

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ffonio 0800 40 85 903/4 neu drwy fynd i helpscheme.co.uk

Newid i deledu digidol yw'r
broses o drosi system deledu ddaearol y DU i ddigidol. Rhwng nawr a
2012, bydd sianeli analog yn cael eu diffodd fesul rhanbarth a bydd
gwasanaethau teledu a radio digidol am ddim yn eu disodli. Bydd y newid
i ddigidol yn golygu y bydd Freeview yn dod ar gael i'r DU gyfan ac y
bydd tonnau awyr yn cael eu rhyddhau ar gyfer gwasanaethau newydd fel
band eang diwifr tra chyflym a theledu symudol.

Digital UK

Digital UK yw'r sefydliad annibynnol, dielw a sefydlwyd yn 2005 i
roi'r newid i ddigidol ar waith. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus
(BBC, ITV, Channel 4, Five, S4C a Teletext) a'r gweithredwyr amlbleth
digidol yn berchen arno ar y cyd ac yn ei gydariannu.

eaga

Mae eaga, sef darparwr blaenllaw gwasanaethau effeithlonrwydd ynni
preswyl a gwasanaethau trefnu trwy gontractau allanol, wedi'i ddewis
gan y BBC fel darparwr gwasanaeth y Cynllun Cymorth a fydd yn
cyflenwi'r cymorth sydd ar gael dan y cynllun, o ranbarth ITV Border
ymlaen.

STV North - Shetland STV Central STV Central Northern Ireland Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man