Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Datganiad Newyddion

24th Awst 2009

Mae’r Cynllun Cymorth wrth law i’ch helpu i newid i deledu digidol yn ne Cymru

Mae pobl hŷn a phobl anabl sy’n byw yn ne Cymru’n cael cynnig cymorth i newid i ddigidol gyda Chynllun Cymorth y Newid i Ddigidol.

Sefydlwyd Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol i helpu pobl hŷn a phobl anabl gymwys i newid un o’u setiau teledu i ddigidol.

Mae pobl yn gymwys:

  • Os ydyn nhw’n 75 oed neu’n hŷn, neu
  • Os ydyn nhw wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy
  • Os ydyn nhw’n cael (neu y gallen nhw gael) lwfans byw i’r anabl, neu lwfans gweini neu lwfans gweini cyson, neu atodiad symudedd, neu
  • Os ydyn nhw wedi’u cofrestru’n ddall neu'n rhannol ddall
Beth sydd ar gynnig?

Am un taliad o £40, bydd pobl gymwys yn cael cynnig:

  • Cyfarpar digidol hawdd i’w ddefnyddio, i drosi un set deledu yn eu cartref;
  • dosbarthu’r cyfarpar i’ch cartref a’i osod os ydych chi’n dymuno hynny;
  • gwirio’r erial a gosod un newydd os oes angen, lle gallwn wneud hynny;
  • llinell gymorth a chyngor ar aildiwnio;
  • gwasanaeth ôl-ofal teledu digidol am 12 mis.

Mae pobl gymwys yn cael eu hannog i gadw llygad yn agored am becynnau gwybodaeth Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol sy’n egluro sut gallan nhw gael help ychwanegol i drosi un set deledu yn eu cartref i ddigidol mewn pryd ar gyfer y newid i ddigidol mis Mawrth nesaf.

Bydd mwyafrif y bobl gymwys yn derbyn eu llythyr cyntaf a phecyn gwybodaeth rhwng nawr a diwedd mis Medi 2009. Mae manylion ar sut i wneud cais, eglurhad o’r holl opsiynau sydd ar gael a phrisiau wedi’u nodi’n glir yn y pecyn.

Meddai Cheryl Lockyer, rheolwr rhwydwaith rhanbarthol Cymru ar ran Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol: “Y neges rydyn ni am ei chyfleu i bobl gymwys yw nad oes angen poeni, gan fod cymorth ar gael.  Y cyfan y mae angen ichi ei wneud unwaith y byddwch chi’n derbyn eich pecyn gwybodaeth yw naill ai ein ffonio neu ddychwelyd eich ffurflen wedi’i llenwi.”

Bydd grŵp trosglwyddyddion Gwenfô, sy’n gwasanaethu Caerdydd, Casnewydd a de-ddwyrain Cymru, yn dechrau newid ar 3 Mawrth 2010.
Y cynnig safonol i bobl gymwys yng Nghymru yw bocs digidol Freeview wedi’i osod ar un set deledu. Bydd y cyfarpar yn golygu y bydd mwy nag 20 o sianeli ar gael i bobl, gan gynnwys pob un o'r sianeli gwasanaeth cyhoeddus.

Bydd gofyn i’r mwyafrif o bobl dalu £40 tuag at y cynnig cymorth safonol. I bobl gymwys sydd hefyd yn cael credyd pensiwn, cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth, mae’n rhad ac am ddim.

Gall pawb sy’n gymwys yn yr ardal hefyd ddewis o opsiynau digidol eraill. Mae’r rhain yn cynnwys freesat a Sky ymhlith eraill, ac mae rhai ohonyn nhw’n costio mwy.

Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i gael y Cymorth?

Mae angen i bobl gymwys ymateb i gael y cymorth.  Gallwch chi ddychwelyd ffurflenni’r pecyn gwybodaeth wedi’u llenwi trwy'r post i'r Cynllun Cymorth neu, i’w gwneud yn haws fyth i wneud cais, gall pobl gymwys hefyd ddewis ffonio'r Cynllun Cymorth yn rhad ac am ddim ar 0800 40 85 903 os ydyn nhw am gael gwasanaeth Saesneg, neu 0800 40 85 905 os oes angen cymorth arnyn nhw yn Gymraeg.

Ar ben hyn, gall unrhyw un cymwys y mae angen cymorth arnyn nhw i wneud cais enwebu rhywun arall i lenwi eu ffurflen ar eu rhan.

Mae’r Cynllun Cymorth yn cael ei redeg gan y BBC dan gytundeb â Llywodraeth y DU, ac fe’i cynlluniwyd i ddiwallu anghenion pobl hŷn a phobl anabl. Dewiswyd cyfarpar i fod yn hawdd i’w ddefnyddio, ac mae holl staff y ganolfan gyswllt, staff dosbarthu a gosodwyr wedi’u hyfforddi i ddeall a pharchu pobl hŷn a phobl anabl. Mae’r holl osodwyr wedi’u fetio, maen nhw’n cario cerdyn i gadarnhau pwy ydyn nhw, ac ni fyddan nhw byth yn galw heb drefnu apwyntiad.

-DIWEDD-

Nodiadau i’r Golygydd

Cysylltwyr y Cyfryngau:

Diane Green
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu – Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol
Ffôn: 0191 245 8847
Ffôn symudol: 07951478832
E-bost: diane.green@eaga.com

Sarah Fairfax
Gweithredwr Cyfathrebu – Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol
Ffôn: 0191 245 8834
Ffôn symudol: 07730424407
E-bost: sarah.fairfax@eaga.com

STV North - Shetland STV Central STV Central Northern Ireland Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man