Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Datganiad Newyddion

1st Medi 2009

Helpwch rywun arall i newid i deledu digidol yng Ngogledd Cymru trwy “Drosglwyddo!” y neges

Gyda chwta chwe wythnos i fynd tan y newid i ddigidol, mae ymgyrch “Trosglwyddwch” Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol yn annog trigolion i helpu rhywun arall i newid i ddigidol.

Nod ymgyrch “Trosglwyddwch” yw sicrhau bod pob unigolyn hŷn ac anabl cymwys yn yr ardal yn gwybod am y cymorth y gallan nhw ei gael i sicrhau y bydd eu teledu’n parhau i weithio pan fydd y newid i ddigidol yn dechrau ar 21 Hydref 2009.

Bydd trosglwyddydd Llanddona, sy’n gwasanaethu gogledd Cymru, yn dechrau newid i ddigidol ar 21 Hydref, gyda throsglwyddydd Moel y Parc yn dilyn ar 28 Hydref a throsglwyddydd Cefn Digoll yn dilyn ar 4 Tachwedd 2009.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi’r ymgyrch ac yn gofyn i bawb sydd eisoes wedi newid i ddigidol estyn at y bobl hŷn a’r bobl anabl hynny y maen nhw’n eu hadnabod y mae angen cymorth arnyn nhw o hyd, o bosibl, a’u hannog i gysylltu â’r Cynllun Cymorth.

Meddai Richard Fairhead, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydyn ni, yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn gweithio byth a beunydd i sicrhau diogelwch pawb sy’n byw, yn gweithio ac yn teithio yng ngogledd Cymru. Trwy weithio gyda’r Cynllun Cymorth, rydyn ni’n gallu cyrraedd y rheini yn ein hardal y gallai fod wir angen cyngor a chyfarwyddyd arnyn nhw, ac a fyddai’n cael budd o’r Cynllun Cymorth.”

Mae tua 30 o ddigwyddiadau, gan gynnwys cyflwyniadau, mannau cyngor a digwyddiadau sioe deithiol yn cael eu cynnal ledled y rhanbarth yn ystod yr wythnosau nesaf, lle gall pobl gael gafael ar daflenni a llyfrnodau i helpu i roi’r neges ar led.

Mae’r rhain yn cynnwys y canol trefi a ganlyn: Prestatyn ar 9 Medi, Caernarfon ar 10 Medi, Bangor ar 11 Medi, Caergybi ar 12 Medi, Llangollen ar 15 Medi, Queensferry ar 16 Medi, yr Wyddgrug ar 17 Medi, y Fflint ar 18 Medi a Llandudno ar 19 Medi.

Wrth i’r newid i ddigidol nesáu, mae Cynllun Cymorth Newid i Digidol, sy’n cael ei redeg gan y BBC, yn cynnig cymorth ymarferol i bobl hŷn a phobl anabl gymwys newid un o’u setiau teledu i ddigidol. Os yw pobl gymwys eisoes wedi trosi un set deledu heb gymorth oddi wrth y Cynllun Cymorth, gallan nhw dal wneud cais i drosi ail set.

Mae pobl yn gymwys i gael cymorth oddi wrth Gynllun Cymorth y Newid i Ddigidol os ydyn nhw:

• yn 75 oed neu’n hŷn,
• wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu fwy,
• yn cael, neu y gallen nhw gael, lwfans byw i’r anabl,
• yn cael lwfans gweini neu lwfans gweini cyson, neu atodiad symudedd,
• neu os ydyn nhw wedi’u cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall.

Am un taliad o £40, mae pobl gymwys yn rhanbarth gogledd Cymru’n cael cynnig:

• Cyfarpar Freeview hawdd i’w ddefnyddio, i drosi un set deledu,
• Gosod y cyfarpar hwnnw,
• Gwirio’r erial a’i huwchraddio lle bod angen,
• Arddangosiad o sut mae’n gweithio, a
• Rhywun i’w ffonio am gymorth tra’u bod yn dod i arfer ag ef.

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bobl sy’n gymwys ac sydd hefyd yn cael credyd pensiwn, cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth.

Dewiswyd cyfarpar yn benodol i fod yn hawdd i’w ddefnyddio, ac mae holl staff y ganolfan gyswllt, staff dosbarthu a gosodwyr wedi’u hyfforddi i ddeall a pharchu pobl hŷn a phobl anabl. Mae gosodwyr yn cario cerdyn i gadarnhau pwy ydyn nhw, ac ni fyddan nhw byth yn galw heb drefnu apwyntiad.

Mae pecyn gwybodaeth y Cynllun Cymorth wedi’i bostio at bobl gymwys a byddan nhw’n derbyn llythyr atgoffa. Mae angen iddyn nhw ymateb i gael y cymorth. Gellir dychwelyd ffurflenni’r pecyn gwybodaeth wedi’u llenwi i'r Cynllun Cymorth neu, i’w gwneud yn haws fyth i wneud cais, gall pobl gymwys ffonio’r Cynllun Cymorth yn rhad ac am ddim ar 0800 40 85 903 i siarad â chynghorydd Saesneg, neu 0800 40 85 905 i gael cymorth yn Gymraeg.

Os hoffech wybod mwy am y Cynllun Cymorth a phwy sy’n gymwys i wneud cais, ewch i helpscheme.co.uk

--diwedd--

Nodiadau i’r Golygyddion

Cysylltydd y Cyfryngau
Diane Green
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu – Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol
Ffôn: 0191 245 8847
Ffôn symudol: 07951478832
E-bost: diane.green@eaga.com

Delweddau ar gael ar gais

Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol

Mae Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol yn cael ei redeg gan y BBC, dan gytundeb â Llywodraeth y DU, i helpu pobl hŷn a phobl anabl i newid i ddigidol.

Yn y cyfnod wrth i’r newid i ddigidol nesáu ym mhob rhanbarth, bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig cymorth ymarferol i drosi un o’u setiau teledu i ddigidol. Mae pobl yn gymwys os ydyn nhw'n 75 oed neu’n hŷn, neu os ydyn nhw wedi’u cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall. Mae pobl hefyd yn gymwys os ydyn nhw’n cael (neu y gallen nhw gael) lwfans gweini neu lwfans gweini cyson, atodiad symudedd neu lwfans byw i’r anabl.

Bydd gofyn i’r mwyafrif o bobl gyfrannu £40 tuag at y cymorth. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bobl sy’n gymwys ac sydd hefyd yn cael credyd pensiwn, cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth.
Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy ffonio 0800 40 85 903 i siarad â chynghorydd Saesneg, neu 0800 40 85 905 i gael cymorth yn Gymraeg, neu drwy fynd i helpscheme.co.uk

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cynnig gwiriadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bob trigolyn yng Ngogledd Cymru – maen nhw’n gwbl rhad ac am ddim ac ar gael i drigolion o bob oed. Yn ystod gwiriad, bydd aelod o’r Gwasanaeth yn dod i’ch cartref, yn rhoi awgrymiadau diogelwch tân, yn eich helpu i lunio cynllun dianc rhag tân ac, os oes angen, yn gosod larymau mwg newydd ar bob llawr yn eich cartref. Mae’r gwasanaeth hwn yn gwbl rhad ac am ddim. I gofrestru, ffoniwch ein llinell boeth 24 awr ar 0800 1691234 neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk.

Y newid i deledu digidol yw’r broses o drosi system deledu ddaearol y DU i ddigidol. Rhwng nawr a 2012, bydd sianeli analog yn cael eu diffodd fesul rhanbarth a bydd gwasanaethau teledu a radio digidol rhad ac am ddim (Freeview) yn eu disodli. Bydd y newid i ddigidol yn golygu y bydd Freeview yn dod ar gael i’r DU gyfan ac y bydd tonnau awyr yn cael eu rhyddhau ar gyfer gwasanaethau newydd fel band eang diwifr tra chyflym a theledu symudol.

eaga

Mae eaga, sef darparwr blaenllaw gwasanaethau effeithlonrwydd ynni preswyl a gwasanaethau trefnu trwy gontractau allanol, wedi’i ddewis gan y BBC fel darparwr gwasanaeth y Cynllun Cymorth a fydd yn cyflenwi’r cymorth sydd ar gael dan y cynllun, o ranbarth ITV Border ymlaen.

Switch 1 Image Click here to download large image

Switch 3 Click here to download large image

STV North - Shetland STV Central STV Central Northern Ireland Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man