Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Datganiad Newyddion

15th Ionawr 2010

MAGGIE PHILBIN YN ANNOG POBL I ROI HELP LLAW

Daeth Maggie Philbin, sef darlledwraig enwog a chyn gyflwynydd Tomorrow’s World, a’r masgot Digit Al at ei gilydd heddiw yng Nghaerdydd i lansio’r ymgyrch Help Llaw ar gyfer Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol.

Mewn prin ychydig wythnosau, fe fydd y newid i ddigidol yn cyrraedd de-ddwyrain Cymru a rhannau o ganolbarth a gorllewin Cymru. Mae’r ymgyrch Help Llaw yn annog pawb i wneud yn siŵr bod pobl hŷn a phobl anabl yn eu hardal yn gwybod am y cymorth y gallan nhw ei gael oddi wrth y Cynllun Cymorth i newid i deledu digidol.

Meddai Maggie, “Hyd yn oed oes ydych chi wedi bod â theledu digidol ers blynyddoedd, mae’n bosibl bod gennych chi ffrindiau neu gymdogion sydd heb newid i ddigidol eto, ac efallai fod y broses wedi'u drysu.  Mae Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol yn cynnig cefnogaeth ymarferol i helpu pobl hŷn a phobl anabl i drosi un o’u setiau teledu i ddigidol.  Gallwn ni i gyd roi help llaw trwy wneud yn siŵr bod aelodau hŷn ac anabl o’n cymuned yn gwybod am y cymorth y gallan nhw ei gael oddi wrth y Cynllun Cymorth.”

Ymunodd Bert Wickam, a ddewiswyd gan Fforwm Pobl Hŷn Caerdydd i fod yn Hyrwyddwr Digidol ar eu rhan, â Maggie yn y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Nhredelerch, Caerdydd.  Mae Bert wedi helpu llawer o bobl yn ei ardal leol i newid i deledu digidol.  Meddai Bert: “Mae'r newid i ddigidol ar fin cyrraedd! Rhowch Help Llaw ac atgoffa pobl hŷn a phobl anabl yn eich ardal am y Cynllun Cymorth. Wyddoch chi ddim; efallai mai chi yw’r unig un y mae ganddyn nhw ffydd ynddyn nhw i roi cyngor da iddyn nhw."

Mae’r Cynllun Cymorth y mae’r BBC yn ei redeg yn cynnig cymorth ymarferol i bobl hŷn a phobl anabl i drosi un o’u setiau teledu i ddigidol mewn pryd ar gyfer y newid i ddigidol.  Mae’r Cynllun Cymorth wedi cysylltu â’r rheini sy’n gymwys i gael y cymorth, ond mae’n rhaid iddyn nhw ateb drwy’r post neu dros y ffôn i gael y cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo.

Meddai Melfyn Clwyd Roberts, Rheolwr Cenedlaethol Cymru Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol, “Efallai eich bod chi wedi newid i ddigidol yn barod.  Nawr yw’r amser i feddwl am y rheini y mae angen cymorth arnyn nhw o hyd, yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl sydd o bosibl yn gadael pethau tan y funud olaf, neu efallai nad ydyn nhw’n siŵr beth i’w wneud. Rhowch Help Llaw iddyn nhw trwy ddweud wrthyn nhw am Gynllun Cymorth y Newid i Ddigidol."

Bydd arbenigwyr o’r Cynllun Cymorth yn ymweld â chanolfannau siopa, canolfannau cymunedol a llyfrgelloedd ledled canolbarth a gorllewin Cymru i roi cyngor ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i bobl newid i ddigidol.

Mae deunyddiau Help Llaw a mwy o wybodaeth am yr ymgyrch Help Llaw ar gael mewn swyddfeydd Age Concern lleol dethol ym Mhontypridd, Merthyr Tudful, Ceredigion, Aberaeron a Phowys.  Mae deunyddiau Help Llaw a Chynllun Cymorth y Newid i Ddigidol hefyd ar gael oddi wrth BBC Cymru Wales ac o Ganolfan Gymorth C2C (Cysylltu â Chaerdydd). 

I wneud cais am gymorth oddi wrth Gynllun Cymorth y Newid i Ddigidol, neu i gael gwybod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth, ffoniwch y rhif llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0800 40 87 654, neu 0800 40 85  905 os oes angen cymorth yn Gymraeg arnoch.  Gall defnyddwyr ffôn testun ffonio 0800 40 85 936.  I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.helpscheme.co.uk neu anfonwch e-bost i info@helpscheme.co.uk.  I gael gwybod mwy am y newid i ddigidol, ewch i www.digitaluk.co.uk. 

-diwedd-

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae’r newid i ddigidol yn dechrau mewn rhannau o orllewin a chanolbarth Cymru o 10 Chwefror 2010, ac yn ne-ddwyrain Cymru o 3 Mawrth 2010.

Lleoliadau gwybodaeth –

Gall pobl gael deunyddiau a gwybodaeth Help Llaw ynglŷn â’r ymgyrch Help Llaw yn y lleoliadau a ganlyn:

Age Concern Morgannwg
Tŷ Principality
y tu cefn i 31 Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TE
Age Concern Morgannwg
Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
89-90 Stryd Fawr
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UH
Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi
Yr Hen Siop
Bryn y Gog
Machynlleth
Powys  SY20 8HL     
Age Concern Ceredigion
Yr Hen Ysgol Gymraeg
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1LF
Age Concern Aberaeron
Tŷ Llundain
Sgwâr Alban
Aberaeron
SA46 0AJ 
BBC Cymru Wales
Tŷ Darlledu
Caerdydd
CF5 2YQ

Canolfan Gymorth C2C (Cysylltu â Chaerdydd)
Llyfrgell Ganolog Caerdydd
Lôn y Felin
Caerdydd
CF10 1EW

Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol –

Os yw pobl 75 oed a hŷn yn gymwys i gael rhai budd-daliadau anabledd penodol, wedi’u cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall neu’n byw mewn cartref gofal, mae ganddyn nhw hawl i gael cymorth ymarferol oddi wrth Gynllun Cymorth y Newid i Ddigidol y mae’r BBC yn ei redeg. Am £40, fe fyddan nhw’n cael cyfarpar i newid un set deledu fesul aelwyd i ddigidol. Byddan nhw’n gallu cael y cyfarpar hwnnw wedi’i osod os ydyn nhw’n dymuno hynny, arddangosiad o sut mae’n gweithio, a rhif i’w ffonio tra’u bod nhw’n dod i arfer â phethau. Os ydych chi’n gymwys a hefyd ar fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm, fe fydd y cymorth yn rhad ac am ddim. Byddwn ni’n cysylltu â phawb sy’n gymwys yn uniongyrchol cyn y newid i ddigidol. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar 0800 408 7654.

Y newid i deledu digidol yw’r broses o drosi system deledu ddaearol y DU i ddigidol. Rhwng nawr a 2012, bydd sianeli analog yn cael eu diffodd fesul rhanbarth a bydd gwasanaethau teledu a radio digidol rhad ac am ddim (Freeview) yn eu disodli. Bydd y newid i ddigidol yn golygu y bydd Freeview yn dod ar gael i’r DU gyfan ac y bydd tonnau awyr yn cael eu rhyddhau ar gyfer gwasanaethau newydd fel band eang diwifr tra chyflym a theledu symudol.

Digital UK – Digital UK yw’r sefydliad annibynnol, dielw a sefydlwyd yn 2005 i roi’r newid i ddigidol ar waith. Mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (BBC, ITV, Channel 4, Five, S4C a Teletext) a'r gweithredwyr amlbleth digidol yn berchen arno ar y cyd ac yn ei gydariannu.

eaga – mae’r BBC wedi dewis eaga, sef darparwr gwasanaethau effeithlonrwydd ynni preswyl a gwasanaethau trefnu trwy gontractau allanol, i fod yn ddarparwr gwasanaeth y Cynllun Cymorth a fydd yn cyflenwi’r cymorth sydd ar gael dan y cynllun, o ranbarth ITV Border ymlaen.

Digital Outreach Limited – sefydlwyd Digital Outreach Ltd trwy bartneriaeth trydydd sector/sector preifat rhwng Age Concern; Help the Aged, Community Service Volunteers and Collective Enterprises Ltd i helpu pobl hŷn a phobl anabl i fanteisio ar dechnoleg newydd a gwasanaethau a gyflenwir yn eu cartrefi eu hunain. Mae Digital Outreach Ltd yn gweithio dan gontract â Digital UK ar hyn o bryd i gyflenwi Rhaglen Allgymorth Cymunedol y Newid i Ddigidol.

Maggie Philbin – mae Maggie Philbin wedi bod yn gweithio yn y diwydiant teledu ers 30 mlynedd. Ar hyn o bryd, mae'n gyfrifol am ddadansoddi technoleg ar gyfer BBC Breakfast ac mae'n ohebydd rheolaidd ar Inside Out, ac mae wedi bod yn gwneud gwyddoniaeth gymhleth yn ddiddorol ers cyflwyno Tomorrow's World a Hospital Watch.

Maggie oedd yr un a arddangosodd am y tro cyntaf erioed dechnoleg rydyn ni bellach yn ei chymryd yn ganiataol – y peiriant ffacs, y darllenydd cod bar cyntaf mewn archfarchnadoedd a’r offeryn llywio â lloeren cyntaf.  Gwnaeth hefyd arddangos y wialen bysgota gyntaf i oleuo yn y tywyllwch, y llinell olchi gyntaf i ganu pan fyddai’n glawio a’r flanced drydan gyntaf a oedd yn gwybod lle roedd eich tameidiau poeth. Mae’n tueddu i gadw’n dawel ynglŷn â hynny!

Mae Maggie yn frwd dros wneud yn siŵr bod pobl ifanc a hen yn gwneud yn fawr o dechnoleg fodern. Trwy ddigwyddiadau sy’n torri tir newydd, fel Teentech, mae’n annog pobl ifanc a’u rhieni i ddeall yr ystod eang o gyfleoedd ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae hefyd yn gweithio gydag Age Concern i wneud yn siŵr bod pobl hŷn yn sylweddoli bod yr offer cyfathrebu modern grymus iddyn nhw yn ogystal ag i’w plant a’u hwyrion.

STV North - Shetland STV Central STV Central Northern Ireland Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man