Main Content
Polisi Diogelu Data
- Byddwn ond yn casglu a defnyddio'ch manylion personol i ddarparu help i chi drwy'r Cynllun Cymorth.
- Efallai bydd y manylion a gesglir ac a ddefnyddir yn ymwneud â'ch iechyd(er enghraifft, os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall) os ydy hyn yn angenrheidiol i'n helpu gyda'r cynllun.
- Datgelir eich manylion personol i berson neu gwmni dim ond os ydy hyn yn angenrheidiol er mwyn i chi dderbyn cymorth o dan y cynllun.Os dewiswch dderbyn eich cyfarpar Teledu digidol ac unrhyw wasanaethau tanysgrifio oddi wrth ddarparwr arall (fel Sky, Virgin Media ac yn y blaen) byddwn yn rhoi eich enw, cyfeiriad ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall iddynt. Bydd y darparwr arall yn dweud wrthych chi sut y maent yn defnyddio eich manylion. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion personol mewn unrhyw amgylchiadau eraill heb gael eich caniatâd yn gyntaf.
- Byddwn yn cael gwared yn ddiogel ar eich holl fanylion cyswllt cyn gynted â sy'n rhesymol bosibl ar ôl i ni ddarparu'r holl wasanaethau neu ar ôl i chi ddweud wrthym nad ydych am dderbyn cymorth dan y cynllun
- Os gofynnwch i gyfaill neu berthynas eich helpu i hawlio cymorth dan y cynllun , byddwn yn casglu a defnyddio manylion personol y person hwnnw fel y disgrifir uchod. Gwnewch yn siŵr fod eich cyfaill neu berthynas yn ymwybodol o hyn.


