Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Polisi Preifatrwydd

Rydym yn ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd pawb sy'n ymweld â'n gwefan. Darllenwch y polisi preifatrwydd canlynol er mwyn deall sut rydym yn defnyddio a diogelu'r wybodaeth a rowch i ni. Trwy edrych neu gofrestru ar y wefan rydych yn rhoi caniatâd i ni gasglu, defnyddio a throsglwyddo eich gwybodaeth yn unol â thermau'r polisi hwn.

^ Nôl i'r rhestr CC

Gwybodaeth a gesglir gennym oddi wrthych chi

Pan fyddwch yn ymweld neu'n cofrestru ar y wefan hon efallai y byddwn yn gofyn i chi roi peth gwybodaeth amdanoch eich hun, gan gynnwys eich enw a manylion cyswllt. Efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am y canlynol

  1. Eich defnydd o'n gwefan yn ogystal â gwybodaeth amdanoch o unrhyw negeseuon a ddanfonir gennych i'r wefan ac unrhyw e-byst neu lythyron a ddanfonwch atom
  2. Gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys cyfeiriad eich darparydd rhyngrwyd, system weithredu, fersiwn porwr, ble rydych yn byw, pa mor hir y buoch ar y wefan a'r tudalennau yr ymweloch â nhw (heb unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych). Rydym yn cadw'r wybodaeth yma ar ein gweinydd log a'i defnyddio i gasglu ystadegau dienw i'n helpu i wella'n gwasanaeth i chi. Mae gennym yr hawl i ddefnyddio'r wybodaeth i ymchwilio a gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n camddefnyddio'r wefan.
  3. Gwybodaeth a ddarperir gennych ar ffurflenni ar lein. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau, cwynion a ffurflenni cofrestru.
  4. Unrhyw drosglwyddiadau a wneir gennych ar ein safle.Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol a allai ddatgelu pwy ydych ar gyfer dibenion y trosglwyddiad ac unrhyw gyfrif sydd gennych gyda ni. Gallem hefyd ddefnyddio'r wybodaeth yma pan yn casglu ystadegau dienw.

^ Nôl i'r rhestr CC

Defnyddio'ch gwybodaeth

Bydd eich gwybodaeth yn caniatáu i ni roi mynediad i chi i holl rannau ein gwefan a darparu'r nwyddau neu'r gwasanaethu rydych wedi gofyn amdanynt. Bydd hefyd yn ein galluogi i ddanfon bil atoch ac i gysylltu â chi am eich archebion. Os bydd angen byddwn hefyd yn defnyddio a dadansoddi'r wybodaeth a gesglir gennym fel y gallwn ddarparu cymorth, gwella a datblygu ein busnes.

Yn benodol gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am eich sylwadau am ein gwasanaethau ac i ddweud wrthych am newidiadau pwysig neu ddatblygiadau i'r safle neu ein gwasanaethau. Efallai y defnyddir eich gwybodaeth hefyd ar gyfer un neu ragor o'r canlynol.

  1. Casglu ystadegau dienw. Mae'r rhain yn angenrheidiol i roi i ni drosolwg o sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio ac i'n cynorthwyo i wella'n gwasanaeth.
  2. Efallai y defnyddiwn yr wybodaeth bersonol a roddir gennych ar y wefan hon er mwyn:
    1. rheoli'r wefan;
    2. gwneud y wefan yn fwy personol ac yn haws i'w defnyddio
    3. caniatáu i chi ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael ar y wefan;
    4. danfon nwyddau a darparu gwasanaethau rydych yn eu harchebu a thalu amdanynt trwy'r wefan;
    5. danfon datganiadau ac anfonebau atoch a chasglu taliadau gennych;
    6. danfon deunydd cyfathrebu masnachol cyffredinol atoch;
    7. danfon ebyst rydych wedi gofyn amdanynt;
    8. darparu gwybodaeth ystadegol am ein defnyddwyr i fudiadau eraill heb ddatgelu unrhyw ddefnyddiwr unigol; a
    9. delio â'ch ymholiadau a'ch cwynion am y wefan.

^ Nôl i'r rhestr CC

Eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw'r wybodaeth a roddir gennych i ni ar ein cyfrifiaduron yn y DU. Bydd ar gael ar gyfer ein staff y tu allan i'r DU a mudiadau eraill gan gynnwys cwmniau o fewn y grwp eaga cyf. rhai ohonynt y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n gweithredu ar ein rhan i'r dibenion a nodir yn y polisi hwn neu i bwrpasau eraill derbyniol i chi.

Mae'r mudiadau hynny yn prosesu gwybodaeth, dosbarthu archebion, prosesu taliadau cardiau credyd, a darparu gwasanaethau cymorth ar eich rhan. Efallai y byddwn hefyd yn trosglwyddo gwybodaeth am sut y mae pobl yn defnyddio ein gwefan i fudiadau eraill ond ni fydd hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'ch enwi chi.

Oni bai bod gorfodaeth gyfreithiol arnom ni fyddwn yn rhannu, gwerthu na datgelu dim o'r wybodaeth a roddir gennych i ni heb eich aniatâd.

^ Nôl i'r rhestr CC

Cookies

Darnau bach o wybodaeth a storir ar eich cyfrifiadur yw 'cookies'. Bydd eich system yn rhyddhau 'cookies' i'ch cyfrifiadur pan ydych chi yn logio ar y wefan oni bai eich bod yn gofyn i ni beidio â gwneud hyn wrth i chi roi eich manylion i ni. Mae 'cookies' yn hwyluso'r broses o logio a defnyddio'r wefan yn y dyfodol. Maent hefyd yn caniatáu i ni fonitro defnydd o'r wefan a gwneud y cynnwys yn fwy personol i chi. Gallwch drefnu bod y cyfrifiadur yn gwrthod 'cookies' ond efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai nodweddion arbennig o ganlyniad.

^ Nôl i'r rhestr CC

Diogelwch a chadw eich gwybodaeth

Rydym yn defnyddio mesurau diogelwch i ddiogelu eich gwybodaeth rhag pobl heb awdurdod a phrosesu anghyfreithlon, colli damweiniol, difrod a niwed. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod rhesymol neu cyhyd ag y mae'r gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud

^ Nôl i'r rhestr CC

Cael gafael ar eich gwybodaeth a'i diweddaru

Mae gennych hawl i weld yr wybodaeth a gedwir gennym amdanoch a gallwch ofyn i ni wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i sicrhau ei bod yn gywir ac yn gyfredol. Os ydych am wneud hynny cysylltwch â ni.Yn ôl y gyfraith gallwn godi tâl o £10 ar gyfer y gost o ddarparu'r manylion a gedwir gennym i chi.

^ Nôl i'r rhestr CC

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Os bydd unrhyw newidiadau i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol byddwn yn rhoi manylion ar ein gwefan a lle bo hynny'n briodol trwy e-bost.

^ Nôl i'r rhestr CC

STV North - Shetland STV Central STV Central Northern Ireland Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man