Ydych chi'n
gymwys?

Gwiriwch nawr

Oeddech chi'n gwybod?

disgwylir i 7 miliwn o
gartrefi fod yn gymwys i gael
help arbennig trwy ein
Cynllun Cymorth.

Termau Gwefan & Amodau

Cyhoeddiad Cyfreithiol Pwysig

SYLW: Mae'r cyhoeddiad cyfreithiol hwn yn berthnasol i holl gynnwys y Wefan o dan yr enw parth helpscheme.co.uk (Gwefan) ac unrhyw ohebiaeth trwy e-bost rhyngom ni a chi. Darllenwch y termau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r Wefan. Mae defnyddio'r wefan yn gyfystyr â derbyn y termau hyn p'un ai ydych yn dewis cofrestru gyda ni neu beidio. Os nad ydych yn derbyn y termau hyn peidiwch â defnyddio'r Wefan. Daw'r cyhoeddiad hwn oddi wrth eaga cyf. sy'n gweithredu'r Cynllun Cymorth i Newid ar ran DSHS (Is -gorff o'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig).

DSHS Cyfyngedig
Swyddfa Gofrestredig
Room 2220 White City
201 Wood Lane
Llundain
W12 7TS

Rhif cofrestredig y cwmni. 06259782

1. Cyflwyniad

1.1 - Gellwch gael mynediad i'r rhan fwyaf o rannau'r Wefan heb gofrestru eich manylion gyda ni. Mae rhai rhannau ond yn agored i chi ar ôl cofrestru.

1.2 - Trwy fynd i mewn i unrhyw ran o'r wefan cymerir yn ganiataol eich bod wedi derbyn y cyhoeddiad cyfreithiol hwn yn llawn. Os nad ydych yn derbyn y cyhoeddiad cyfreithiol hwn yn llawn rhaid i chi adael y Wefan ar unwaith.

1.3 - Gall eaga adolygu'r cyhoeddiad cyfreithiol hwn ar unrhyw adeg trwy ddiweddaru'r wybodaeth. Dylech o bryd i'w gilydd edrych ar y Wefan i adolygu'r cyhoeddiad cyfreithiol diweddaraf. Gall rhai o ddarpariaethau'r cyhoeddiad cyfreithiol hwn gael eu disodli
gan gyhoeddiadau cyfreithiol wedi'u dynodi'n arbennig neu dermau a leolir ar dudalennau arbennig ar y Wefan.

2. Hawliau Eiddo Deallusol

2.1 - Ar wahân i'r hyn a ddangosir yn wahanol ar y Wefan , eaga a/neu ei drwyddedwyr sydd berchen hawlfraint yr holl gynnwys a geir ar y Wefan hon a'r holl hawliau eiddo deallusol perthnasol, gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i'r holl hawliau bas data, nodau masnach wedi'u cofrestru neu heb eu cofrestru, nodau gwasanaeth a logos. Ni ellir procsio neu adlewyrchu'r Wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan eaga.

2.2 - Mae eaga yn pwysleisio ei hawl i gael ei gydnabod fel awdur y gwaith hawlfreintiedig ar y Wefan hon ac i wrthwynebu unrhyw gamddefnydd o'r gwaith. Nid ydym yn gwarantu na nodi na fydd eich defnydd o'r hyn a arddangosir ar y Wefan yn amharu ar hawliau trydydd partion.

2.3 - Ni ddylech gopio, addasu, lawrlwytho, camddefnyddio na defnyddio mewn unrhyw ddull arall yr wybodaeth a geir ar y Wefan ond yn unig i bwrpas gwneud ymholiadau neu ofyn am wybodaeth am y gwasanaethau a geir ar y Wefan; neu lawrlwytho a storio dros dro un neu fwy o'r tudalennau ar y Wefan er mwyn edrych arnynt i ddibenion personol yn unig ar gyfrifiadur neu derfynnell bersonol. Er mwyn osgoi amheuaeth nid oes gennych hawl i ailgynhyrchu , storio'n barhaol nac aildrosglwyddo unrhyw gynnwys o'r Wefan heb ein caniatâd ymlaen llaw.

2.4 - Mae'r nodau masnach, logos, a marciau gwasanaeth (gyda'i gilydd y "Trademarks") a arddangosir ar y Wefan (naill ai wedi'u cofrestru neu heb eu cofrestru) yn eiddo i'w gwahanol berchnogion ac i barhau felly. Ni ddylai unrhyw beth sydd ar y Wefan gael ei ddadansoddi i olygu rhoi unrhyw drwydded neu hawl i ddefnyddio unrhyw Nod masnach a gaiff ei arddangos ar y Wefan heb ganiatâd ysgrifenedig perchennog gwreiddiol y Nod masnach.Gwaherddir yn llwyr eich camddefnydd neu dorhawlfraint o unrhyw Nodau masnach a arddangosir ar y Wefan.

3. Mynediad Gwasanaeth

3.1 - Tra bo eaga yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y Wefan fel arfer ar gael 24 awr y dydd, ni fydd eaga yn gyfrifol os am unrhyw reswm na fydd y Wefan ar gael ar unrhyw adeg am unrhyw gyfnod.

3.2 - Gall mynediad i'r Wefan gael ei atal dros dro a heb rybudd os bydd methiant yn y system, trwsio, cynnal a chadw, neu am resymau y tu hwnt i reolaeth eaga

4. Deunydd ac Ymddygiad Ymwelwyr

4.1 - Ar wahân i wybodaeth adnabyddadwy bersonol sy'n dod o dan ein Polisi Preifatrwydd (Saesneg yn unig), bydd unrhyw ddeunydd a gaiff ei drosglwyddo neu ei bostio ar y Wefan yn cael ei ystyried yn ddi-gyfrinachedd a di-batent. Ni fydd unrhyw atebolrwydd ar eaga o safbwynt y fath ddeunydd a bydd eaga a'i rhai dynodedig yn rhydd i gopio, datgelu, dosbarthu, ymgorffori a defnyddio y fath ddeunydd a'r holl ddata, delweddau, synnau, testun a'r pethau eraill a ymgorfforir oddi mewn ar gyfer unrhyw neu bob pwrpas masnachol neu anfasnachol.

4.2 - Gwaherddir chi rhag postio neu drosglwyddo i neu o'r Wefan unrhyw ddeunydd.

(a) sy'n fygythiol difenwol,anweddus, ; neu

(b) nad ydych wedi derbyn yr holl drwyddedau angenrheidiol a/neu ganiatâd; neu

(c) sy'n fygythiol, difenwol, aflednais, anweddus, bradwrus,ymosodol, pornograffig, sarhaus, yn debygol o achosi casineb hiliol, gwahaniaethol, peryglus, tramgwyddus, ymfflamychol, cableddus, yn torri ymddiriedaeth, yn torri ar breifatrwydd, neu a all achosi anfodlonrwydd neu anghyfleustra; neu

(b) nad ydych wedi derbyn yr holl trwyddedau angenrheidiol ar eu cyfer a /neu gadarnhâd; neu

(c) neu sy'n golygu neu'n annog ymddygiad a ystyrir yn drosedd, arwain at atebolrwydd sifil neu fel arall bod yn erbyn y gyfraith neu hawliau unrhyw drydydd part i mewn unrhyw wlad yn y byd; neu

(d) sy'n dechnegol niweidiol (gan gynnwys heb gyfyngiad, firws cyfrifiadur, bomiau rhesymeg,(logic bombs) ceffylau Troia,(Trojan horses) mwydod,(worms) darnau niweidiol, data llygredig, neu unrhyw feddalwedd niweidiol arall neu ddata niweidiol).

4.3 - Ni ddylid camddefnyddio'r Wefan (gan gynnwys heb gyfyngiad trwy hacio).

4.4 - Bydd eaga yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw awdurdodau sy'n gweinyddu'r gyfraith neu orchymyn llys sy'n hawlio bod eaga'n datgelu enw neu'n lleoli unrhyw un sy'n postio unrhyw ddeunydd yn groes i baragraff 4.2 neu baragraff 4.3.

5. Cysylltau i ac o Wefannau Eraill

5.1 - Darperir cysylltau i wefannau trydydd parti yn unig er mwyn eich cyfleustra. Os ydych chi'n defnyddio'r cysylltau hyn rydych yn gadael y Wefan. Nid yw eaga a DSHS Cyf. wedi adolygu yr holl wefannau trydydd parti hyn ac nid ydym yn rheoli nac yn gyfrifol am y gwefannau hyn na'u cynnwys neu argaeledd. Nid yw eaga a DSHS Cyf . felly yn cefnogi nac yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth amdanynt nac unrhyw ddeunydd a geir yno nac unrhyw ganlyniadau y gellir eu cael trwy eu defnyddio. Os ydych chi'n penderfynu mynd ar un o wefannau'r trydydd parti sydd â chyswllt i'r Wefan rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun.

5.2 - Os hoffech gysylltu i'r Wefan gellwch wneud hynny dim ond ar y sail eich bod yn cysylltu i, ond peidio copio, home y Wefan ac o dan yr amodau canlynol

(a) nad ydych yn dileu, aflunio nac yn newid maint neu ymddangosiad logo eaga, y Wefan, nac unrhyw un o'i is-gyrff cysylltiol neu gwmni cyswllt;

(b) nad ydych yn creu ffrâm neu unrhyw borwr neu ymyl amgylcheddol o gwmpas y Wefan;

(c) nad ydych mewn unrhyw ffordd yn awgrymu bod eaga yn cefnogi unrhyw nwyddau neu wasanaethau ar wahân i'w rhai ei hun;

(d) nad ydych yn camddehongli eich perthynas â eaga nac yn cyflwyno unrhyw wybodaeth ffug arall am eaga;

(e) nad ydych yn defnyddio unrhyw nodau masnach naill ai o eaga neu'r Cynllun Cymorth i Newid neu unrhyw un o'i is-gyrff cysylltiol neu gwmniau cyswllt a gaiff eu harddangos ar y Wefan heb ganiatâd ysgrifenedig oddi wrth eaga;

(f) nad ydych yn cysylltu o wefan nad yw'n eiddo i chi; a

(g) nad yw'ch gwefan yn cynnwys deunydd sy'n ddi-chwaeth,bygythiol neu ddadleuol, yn ymylu ar unrhyw hawliau eiddo deallusol neu hawliau eraill unrhyw berson arall neu nad yw'n cydymffurfio â'r holl ddeddfau a rheoliadau cymwys

5.3 - Mae eaga yn arbennig yn diogelu'r hawl i ddiddymu'r hawl a ganiateir ym mharagraff 5. 2 am dorri'r termau hyn a chymryd unrhyw gamau a ystyrir yn briodol.

5.4 - Byddwch yn digolledu eaga yn llawn am unrhyw golled neu ddifrod i eaga neu unrhyw un o'i gwmniau grwp am dorri paragraff 5.2

6. Cofrestru

6.1 - Mae pob cofrestru ar gyfer un defnyddiwr yn unig. Nid yw eaga yn caniatáu i chi rannu eich enw defnyddiwr ag unrhyw berson arall na chydag amryfal ddefnyddwyr ar ryngrwyd

6.2 - Chi sy'n gyfrifol am ddiogelwch unrhyw gyfrineiriau a roddir

7. Ymwrthod

7.1 - Tra bod eaga yn ymdrechu i sicrhau bod yr wybodaeth ar y Wefan yn gywir, nid yw eaga yn gwarantu cywirdeb a chyfanrwydd y deunydd ar y Wefan. Gall eaga wneud newidiadau i'r deunydd ar y Wefan. Gall y deunydd ar y Wefan fod â'i oes wedi darfod ac nid yw eaga yn ymrwymo i ddiweddaru y deunydd hwnnw.

7.2 - Darperir y deunydd ar y Wefan “fel y mae†heb unrhyw amodau, gwarantau neu dermau eraill o unrhyw fath. Felly mae eaga mor bell ag y mae'n bosibl yn ôl y gyfraith yn darparu Gwefan i chi ar y sail bod eaga yn cau allan pob cynrychiolaeth, gwarant, amodau a thermau eraill (gan gynnwys heb gyfyngiad, yr amodau ymhlyg yn ôl y gyfraith am ansawdd boddhaol, addasrwydd i bwrpas a defnydd rhesymol o ofal a medrusrwydd) a, onibai am y cyhoeddiad cyfreithiol hwn , allai gael effaith mewn perthynas â'r wefan.

8. Atebolrwydd

8.1 - Mae eaga, unrhyw barti arall (pa un ai yw'n gysylltiedig neu beidio â chreu, cynhyrchu, cynnal neu weithredu'r Wefan), ac unrhyw un o gwmniau grŵp eaga a'r swyddogion, cyfarwyddwyr, gweithwyr, cyfranddalwyr neu asiantau unrhyw un ohonynt yn gwrthod pob atebolrwydd, a chyfrifoldeb am unrhyw faint neu fath o golled neu ddifrod a all ddigwydd i chi neu drydydd parti (gan gynnwys heb gyfyngiad, unrhyw ddifrod neu golledion cosbol neu ganlyniadol, uniongyrchol neu anuniongyrchol, neu ddifrod neu unrhyw golli incwm, elw, ewyllys da, data, contractau, defnydd o arian, neu golled neu ddifrod yn deillio o neu yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag amharu ar fusnes p'un ai mewn cyfraith camweddau (gan gynnwys difaterwch heb gyfyngiad contract neu beidio), mewn cysylltiad â'r Wefan mewn unrhyw ffordd,neu mewn cysylltid â'r defnydd, methu defnyddio neu ganlyniadau defnyddio'r Wefan, unrhyw wefannau cysylltiedig â'r Wefan neu'r deunydd ar wefannau o'r fath, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i golled neu ddifrod oherwydd firws a all effeithio ar offer cyfrifiadurol, meddalwedd, data neu eiddo arall oherwydd eich mynediad i, defnydd o, neu borri'r Wefan neu eich lawrlwytho o unrhyw ddeunydd o'r Wefan neu unrhyw wefannau cysylltiedig â'r Wefan.

8.2 - Ni all dim yn y cyhoeddiad cyfreithiol hwn gau allan neu gyfyngu ar atebolrwydd eaga am:

(a) marwolaeth neu niwed personol a achosir gan esgeulustod( fel y diffinir y term gan Ddeddf Termau Contract Annheg 1977; neu

(b) unrhyw atebolrwydd na ellir ei gau allan neu ei gyfyngu o dan ddeddf berthnasol; neu

(c) twyll; neu

(d) camgyfleu mater sylfaenol

8.3 - Os bydd defnyddio'r hyn sydd ar y Wefan yn arwain at orfod cael gwasanaeth, trwsio, neu gywiro eich offer, meddalwedd neu ddata, chi sy'n gyfrifol am gostau hynny.

9. Deddf Lywodraethol ac Awdurdodaeth

Llywodraethir y cyhoeddiad cyfreithiol hwn gan ac fe'i dehonglir gan Gyfraith Lloegr. Bydd unrhyw ddadlau a ddaw cysylltiedig â'r cyhoeddiad cyfreithiol hwn yn dod o dan awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Lloegr.

STV North - Shetland STV Central STV Central Northern Ireland Border Tyne Tees Granada Yorkshire Central Anglia London Meridian West West Country Wales Isle of Man